Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rhoi wyneb newydd ar ffordd Liverpool Road, Bwcle

Published: 19/06/2018

Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o gyhoeddi bod cyllid wedi’i sicrhau ar gyfer y gwaith o roi wyneb newydd ar ffordd Liverpool Road, Bwcle, o gyffordd Smithy Lane i Rhuddlan Road. Bydd y gwaith yn cychwyn ddydd Llun 25 Mehefin 2018 ac yn cymryd tua thair wythnos i’w gwblhau. Er mwyn hwyluso’r gwaith o roi wyneb newydd ar y ffordd, bydd goleuadau traffig dwy ffordd yn cael eu gosod tra bydd y gwaith yn cael ei wneud, gyda therfyn cyflymder o 10mya o fewn parth y gwaith. Bydd posib cael mynediad i eiddo a busnesau unigol o hyd, er y gallai fod peth oedi. Mae Cyngor Sir y Fflint a’n contractwr, Roadway Civil Engineerig Ltd, yn ymddiheuro am unrhyw oedi neu amhariad y bydd y gwaith cynnal a chadw hanfodol hwn yn ei achosi, a byddwn yn ceisio cwblhau’r gwaith cyn gynted ag y gallwn.