Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adolygiad or Polisi Cludiant o’r Cartref ir Ysgol

Published: 15/06/2018

Ar ddiwedd y mis bydd gofyn i Gabinet, Cyngor Sir y Fflint ystyried newidiadau posib yn ôl disgresiwn i gludiant or cartref ir ysgol a chymeradwyo ymgynghoriad ar y newid i’r polisi trafnidiaeth. Mae polisi cludiant or cartref ir ysgol y Cyngor yn cynnwys gofynion statudol gan Lywodraeth Cymru a darpariaeth trafnidiaeth yn ôl disgresiwn ar ben y gofynion hyn. Mae elfennau yn ôl disgresiwn y polisi yn cynnwys y canlynol: ? Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg – ym mis Tachwedd 2017 roedd cost o £490k i 720 disgybl, ond gall chwilio am arbedion effeithlonrwydd yn y maes hwn fynd yn groes i nifer o bolisïau cenedlaethol a lleol. ? Ôl 16 – ym mis Tachwedd 2017, ar gyfer 1500 o fyfyrwyr y gost oedd £760k y flwyddyn a chafodd 430 o ddisgyblion y chweched ddosbarth fynediad at hyn am gost o £190k y flwyddyn. ? Darpariaeth trafnidiaeth i ysgolion enwadol – mis Tachwedd 2017, cafodd 720 o ddisgyblion fynediad at hyn ar gost o £435 y flwyddyn. Mae dewisiadau ar gael ar gyfer pob un o’r uchod fel y ganlyn: ? Dewis 1: Dim newid ? Dewis 2: Cynnig i ymgynghori ar ychwanegu ffi ? Dewis 3: Cynnig i ymgynghori ar ddod â thrafnidiaeth i ysgolion Cyfrwng Cymraeg i ben oni bai mai dyma’r ysgol agosaf i gyfeiriad cartref y disgybl. Y pedwerydd maes yn ôl disgresiwn yw hawl i fuddion – ar gyfer disgyblion yr ysgol uwchradd gyda rhieni’n derbyn Cymhorthdal Incwm neu Gredyd Treth Gwaith. Sir y Fflint yw’r unig Gyngor yng Nghymru i gadw’r hawl hon. Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint: “Byddai unrhyw newidiadau i’r polisi trafnidiaeth yn gofyn am ymgynghoriad ac ystyriaeth y Cabinet ar gyfer barn budd-ddeiliaid allweddol yn eu hystyriaeth a’u penderfyniad mewn cyfarfod Cabinet yn y dyfodol. Yn ogystal â hynny, byddai angen cyfnod gweithredu a fyddai’n arwain at unrhyw newidiadau arfaethedig yn dod i rym ym mis Medi 2020 fan gynharaf.”