Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cod ar Gyflogaeth Foesegol mewn cadwyni cyflenwi

Published: 18/06/2018

Gofynnir i Gabinet Cyngor Sir y Fflint fabwysiadu’r Cod ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyn Cyflenwi, mewn partneriaeth â’r undebau llafur cydnabyddedig pan fydd yn cyfarfod dydd Mawrth 19 Mehefin. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu’r Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi i wella’r arfer caffael yng Nghymru, a sicrhau mwy o fudd cymdeithasol o wariant cyhoeddus. Anogir pob corff sector cyhoeddus i fabwysiadu’r Cynllun. Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau Cyngor Sir y Fflint: “Mae Sir y Fflint yn gorff cyhoeddus moesegol a chyfrifol ac yn cofleidior egwyddorion syn sail ir Cod. Byddwn yn gweithredu’r cod hwn cyn belled ag y bo’n ymarferol ac yn fforddiadwy mewn partneriaeth â’n hundebau llafur cydnabyddedig lleol, ac rydym yn annog ein holl bartneriaid sector cyhoeddus a thrydydd sector, i fabwysiadur Cod hefyd. “Fel sefydliad sy’n gyfrifol yn gymdeithasol, rydym yn ceisio defnyddio ein gwariant ar waith, nwyddau a gwasanaethau i hyrwyddor economi leol, a thrwy ddefnyddio buddion cymunedol, achosion a gefnogwn fel darparu hyfforddiant a phrentisiaethau. Mae’r Cyngor yn croesawu’r ymrwymiadau o fewn y cod ymarfer, ar cyfleoedd maent yn eu cynrychioli, i sicrhau ymhellach fod ei wariant caffael yn cefnogi ei nodau ai werthoedd. Mae’r Cod yman dod o fewn arferion a chredoau’r Cyngor ei hun, fel sefydliad sy’n gyfrifol yn gymdeithasol ac yn foesegol, ac wedi’i ymrwymo i fynd i’r afael â: ? chaethwasiaeth fodern ? cosbrestru ? hunangyflogaeth ffug ? defnydd annheg o gynlluniau ymbarél a chontractau dim oriau ? talu’r cyflog byw Maer Cyngor eisoes â threfniadau yn eu lle drwy ei Reolau Gweithdrefn Contract ac arferion caffael, i atal ei gyflenwyr rhag defnyddio llawer o’r arferion hyn. Maer Cod yn estyniad ar arfer cyfredol, ond mae’r ymrwymiadau gofynnol o dan y Cod yn cefnogi gwerthoedd ac egwyddorion y Cyngor ei hun.