Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Moderneiddio Ysgol - adolygiad ysgol ardal Brynffordd a Licswm

Published: 15/06/2018

Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn ystyried yr ymatebion o’r cyfnod ymgynghori statudol ar gyfer adolygiad ysgol Ardal Brynffordd a Licswm, a phenderfynu ar y camau nesaf ar gyfer unrhyw newid trefniadaeth ysgol yn yr ardal, yn ei gyfarfod ddydd Mawrth, 19 Mehefin. Er ei bod wedi ceisio ffedereiddio gydag ysgol arall, nid oedd Ysgol Gynradd Gymunedol Licswm yn gallu sefydlu partner ffederal. Felly, cytunodd y Cabinet i symud ymlaen at ymgynghoriad statudol ar newid trefniadaeth ysgolion yn Ionawr, gydar cynnig i uno ysgolion cynradd cymunedol Brynffordd a Licswm i greu un ysgol ardal. Maer ymgynghoriad, syn cael ei redeg ar y cyd â’r Cod Trefniadaeth Ysgolion statudol, wedi bod yn helaeth. Mae angen i’r adolygiad gael ei gwblhau nawr i ddod âr ansicrwydd i ben mewn cymunedau lleol. Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid: “Mae adolygu dyfodol unrhyw ysgol yn emosiynol, ac mae hwn wedi bod yn adolygiad heriol gyda gwrthwynebiad cymunedol cryf yn Licswm i’r newid arfaethedig. Mae’n rhaid i ni fel Cyngor, fodd bynnag, gydbwyso sensitifrwydd o ymdeimlad cymunedol wrth sicrhau bod ein rhwydwaith ysgolion yn parhau i fod yn hyfyw ac yn gynaliadwy, ac mae’n hanfodol fod y Cyngor yn rhoi sylw i’r mater o adeiladau ysgol annigonol yn Ysgol Brynffordd. “Pa bynnag opsiwn a ffefrir gan y Cabinet, bydd angen model cynaliadwy o addysg gynradd o fewn y dwy gymuned, ac ar eu traws. Mae’r Cabinet yn rhoi ystyriaeth ofalus a meddylgar i’r opsiynau sydd wediu cyflwyno.