Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint mewn Busnes 2018 – Beth mae’r Fargen Twf yn ei olygu i Fusnes – blwyddyn yn ddiweddarach

Published: 13/06/2018

Cynhaliwyd digwyddiad busnes diweddaraf Cyngor Sir y Fflint yng Ngwesty Gwledig Llaneurgain yn ddiweddar. Croesawodd Sir y Fflint mewn Busnes grwp o uwch arweinwyr busnes a gafodd y cyfle i glywed gan yr Arglwydd Barry Jones, Llywydd Sir y Fflint mewn Busnes 2018, ynghyd â Phrif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett, Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd ac Economi) Andy Farrow a Dirprwy Brif Weithredwr (Lle) Cyngor Gorllewin Caer a Chaer, Charlie Seward. Gan groesawu pawb ir digwyddiad, dywedodd Llywydd Sir y Fflint mewn Busnes, yr Arglwydd Barry Jones: Mae Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Gorllewin Caer a Chaer yn chwilio am gyfraniadau ac adborth gan arweinwyr busnes. Rydym eisiau ymgysylltu â chi mewn sgwrs ac ymgynghoriad. Chi yw cynhyrchwyr economaidd y rhanbarth hwn sef yr unig economi trawsffiniol ym Mhrydain sydd â gweithgarwch gweithgynhyrchu gwych – mae mwy na 32% on GDP mewn gweithgynhyrchu - syn llawer uwch nag unman arall yn y wlad.” Yna cyflwynodd y siaradwyr y cyd-destun strategol sydd wrth wraidd y Cais, yn cynnwys dyheadau rhanbarthol Gogledd Cymru a dyheadau lleol Sir y Fflint. Siaradodd Colin Everett mewn manylder am Gais Bargen Twf Gogledd Cymru, dywedodd: Mae gennym becyn o gynlluniau uchelgeisiol yr ydym yn ceisio cyllid ar eu cyfer gan y ddwy Lywodraeth. Mae seilwaith a gwasanaethau cludiant yn allwedd a fydd yn datgloi ein potensial. Yna cafwyd trafodaeth fywiog a gynhyrchodd awgrymiadau a syniadau gwych gan arweinwyr busnes. Roedd y rhain yn cynnwys yr angen am arloesi a chysylltedd digidol, gan ddefnyddio’r afon fel dyfrffordd fewndirol yn gysylltiedig â chludiant y môr a’r posibilrwydd o gynyddu cludiant awyr. Dywedodd Derek Butler, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Ddatblygu Economaidd: Rydym yn gwerthfawrogir holl fewnbwn gan arweinwyr busnes ac mae wedi darparu safbwynt clir i ni ar bethau. Rwyn credu, gydar holl waith cydlynol syn cael ei wneud mewn partneriaeth, rydym yn y sefyllfa orau erioed i gael y buddsoddiad yr ydym ei angen. Am fwy o wybodaeth, neu i gael copi o’r dogfennau cyflwyniad, neu i ddarganfod mwy am ddigwyddiadau Sir y Fflint mewn Busnes, cysylltwch â businessweek@flintshire.gov.uk.