Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwobr Arfordir Cymru 2018 i Dalacre

Published: 07/06/2018

Mae Traeth Talacre wedi cael ‘Gwobr Glan y Môr’ Cadwch Gymrun Daclus 2018. Y Wobr Glan y Môr yw’r safon genedlaethol ar gyfer y traethau gorau ar draws Prydain syn sicrhau y bydd ymwelwyr yn dod at ddarn glân, diogel a deniadol or arfordir syn cael ei reolin dda. Ar adeg pan mae mwy a mwy o bobl yn dewis gwyliau gartref, maer Wobr Glan y Môr yn hanfodol i sicrhau ymwelwyr eu bod yn mwynhau rhannau gorau ein harfordir hardd a thrawiadol. Mae’r Wobr Glan y Môr wedi’i chreu’n arbennig i gydnabod gwahanol ddefnydd ein harfordir. Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Adfywio: “Rydw i’n falch iawn bod Traeth Talacre wedi derbyn y wobr haeddiannol a phoblogaidd iawn yma. Fe fydd hin hwb mawr i dwristiaeth yn Sir y Fflint. “Gall y rhai sy’n ymweld â Thalacre ddisgwyl mwynhau darn hyfryd o arfordir Sir y Fflint syn lân ac yn cael ei reolin dda ac syn darparu ar gyfer llwyth o ddiddordebau, gan warchod a meithrin yr amgylchedd morol sensitif. “Mae gwybodaeth hefyd ar gael i ymwelwyr ynglyn â’r traeth, yr anifeiliaid a’r planhigion lleol a sut y gallwn fwynhaur ardal gan helpu iw gwarchod i genedlaethaur dyfodol ei mwynhau. Dywedodd Dawn Beech, Swyddog Mordwyaeth Aber Afon Dyfrdwy i Gyfoeth Naturiol Cymru: “Mae ein traethau yng Nghymru’n lleoedd gwych i bobl leol a rhai ar eu gwyliau ymweld â nhw a phrofir awyr agored. Rydyn ni’n falch o weithio gyda’n partneriaid yn Nhalacre i ofalu am yr ardal eiconig yma, sy’n gartref i fywyd gwyllt pwysig, fel adar ymfudol a llyffantod cefnfelyn.”