Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gorfodaeth Amgylcheddol yn Sir y Fflint

Published: 07/06/2018

Bydd gofyn i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd yng Nghyngor Sir y Fflint wneud argymhelliad i’r Cabinet ar drefniant gweithgareddau gorfodi amgylcheddol yn y sir yn y dyfodol ac adolygu perfformiad y contract gyda Kingdom Ltd ar hyn o bryd. Bydd yr adroddiad yn amlinellu’r dull o ymdrin â’r holl faterion sy’n ymwneud â gorfodaeth amgylcheddol, gan gynnwys taflu sbwriel, tipio anghyfreithlon, gwastraff ar yr ochr a’r effaith mae’r gwaith yn ei gael ar lendid strydoedd a dangosyddion perfformiad eraill. Mae sbwriel yn broblem i bob tref a chymuned yn y wlad ac roedd gwaith i gasglu sbwriel ar strydoedd a mannau agored yn Sir y Fflint cyn Ionawr 2016 yn costio mwy na £300,000 y flwyddyn. Ar ben y gost a’r effaith weledol mae sbwriel yn ei chael ar yr amgylchedd, mae mwy a mwy o dystiolaeth yn awgrymu ei fod yn cael effaith sylweddol ar yr economi leol ai fod yn cynyddu mathau eraill o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Ym mis Ionawr 2016, mabwysiadodd Cyngor Sir y Fflint bolisi dim goddefgarwch ar gyfer pob trosedd a oedd yn ymwneud â gollwng sbwriel. Cyflwynwyd Kingdom i ymgymryd â gwaith gorfodi ar gyfer troseddau amgylcheddol ar 4 Gorffennaf 2016 i gefnogi’r tîm gorfodi mewnol. Cadwyd y tîm mewnol i fynd i’r afael â materion eraill fel ymchwilio i dipio anghyfreithlon a gorfodaeth mewn perthynas â gwastraff ar yr ochr, a ddechreuodd yn gynharach eleni. Mae’r contract gyda Kingdom yn darparu swyddogion gorfodi i batrolio a rhoi Rhybuddion Cosb Benodedig i aelodau o’r cyhoedd am ollwng sbwriel neu droseddau baw cwn. Dywedodd Aelod Cabinet Strydoedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas: “Gan fod y trefniant dros dro gyda Kingdom yn dod i ben, mae angen i ni benderfynu sut y byddwn yn parhau ac mae nifer o opsiynau iw hystyried, a phob un or rheini gyda manteision ac anfanteision. Mae profiad o ganol y trefi wedi dangos bod dull mwy cadarn o orfodi wedi bod o fudd i drefi o ran glendid. Yr opsiynau yw: 1. Hysbysebu a dyrannu un contract ar gyfer yr holl weithgareddau gorfodi amgylcheddol lefel isel - gan gynnwys parcio ceir. Dyma’r opsiwn a argymhellwyd gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffur Amgylchedd ym mis Medi 2017. Roedd y cynnig yn cynnwys proses apelio annibynnol a fyddai’n cael ei chynnal gan Uwch Swyddog o fewn y Cyngor. 2. Cael gwared â’r trefniant cyfredol a chynnal yr holl weithgareddau gorfodi drwy’r gwasanaeth mewnol gyda staff presennol. 3. Ehangu’r ddarpariaeth fewnol drwy recriwtio neu weithio’n rhanbarthol i ddarparu’r un lefel o waith âr contractwr ar hyn o bryd.