Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Bin gwastraff gardd brown

Published: 05/06/2018

Mae Adran Safonau Masnach Sir y Fflint wedi derbyn gwybodaeth bod preswylydd wedi derbyn galwad ffôn gan gwmni yn dweud bod casgliad ei bin gwastraff gardd brown wedi’i ganslo ac wedi gofyn am ei manylion banc er mwyn rhoi ad-daliad. Dywedodd y cwmni nad oeddent yn gallu fforddio cynnig y gwasanaeth hwn mwyach au bod yn ad-dalu defnyddwyr. Os bydd trigolion yn derbyn galwad digroeso dros y ffôn gan y cwmni hwn neu gwmni tebyg yn hawlio eu bod wedi canslo’r gwasanaeth bin brown peidiwch â rhoi unrhyw fanylion personol iddynt yn cynnwys manylion banc, rhowch y ffôn i lawr, sgiâm yw hwn, mae’r gwasanaeth bin brown yn cael ei ddarparu gan Gyngor Sir y Fflint ac nid yw wedi’i ganslo. Rhowch wybod am unrhyw ddigwyddiadau i’r Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth ar: 03454 04 05 06.