Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Penwythnos Celf Morol

Published: 30/05/2018

Cynhelir penwythnos o gelf o ddydd Sadwrn, 2 Mehefin i ddydd Sul, 3 Mehefin yng Nghanolfan Dreftadaeth Kathleen & May, Dock Road, Cei Connah. Mae sefydliad Quay Watermen’s Association (QWA) a Cheidwaid yr Arfordir i Gyngor Sir Y Fflint wedi dod at eu gilydd i gyflwyno gwaith celf hen a newydd i bawb eu mwynhau. Dyma ddigwyddiad y cyntaf o’i fath ar gyfer arfordir Sir y Fflint. Nod y penwythnos wedi’i ariannu gan Gronfa Dreftadaeth Y Loteri fel rhan o brosiect “Rhoi’r Cei yn ôl yng Nghei Connah” yw defnyddio celf i ailgysylltu pobl â’r afon a’i threftadaeth. Bydd y gweithgareddau yn cael eu cynnal rhwng 9.30am a 5pm bob dydd. Ar ddydd Sadwrn, 2 Mehefin dewch i weld Ian Murray y cerflunydd llif gadwyn wrth ei waith ar y cei ac ar ddydd Sul, 3 Mehefin bydd gan y rhai ifanc gyfle i beintio â cherigos gyda Ronnie Rocks ac adeiladu cwch gyda’r Wow Factor. Mae’r penwythnos yn gyfle sydd ddim yn digwydd yn aml i weld arddangosfa o waith yr artist o Fwcle, y diweddar James Bentley wnaeth beintio llawer iawn ar hyd yr Afon Dyfrdwy a golygfeydd ar hyd yr hen reilffordd o Fwcle i Cei Connah. Mae ei beintiadau yn rhoi golwg unigryw o dreftadaeth ddiwydiannol a morol Sir y Fflint. Bydd cyfle hefyd ar y ddau ddiwrnod i greu campweithiau sialc eich hunain o olygfan Oriel Glan Yr Afon. Dywedodd y Cyng. Carolyn Thomas, Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad: “Mae’n addo bod yn benwythnos anhygoel o gelf, hwyl a dathliad on hanes a threftadaeth leol a byddwn yn annog pobl i ddod ynghyd i fwynhaur lleoliad glan yr afon ryfeddol. “Mae Cyngor Sir Y Fflint ar QWA yn gweithio mewn partneriaeth i gyflawni’r prosiect Cronfa Dreftadaeth y Loteri gyda Cheidwaid yr Arfordir yn cefnogi’r gwaith o gyflawni’r prosiect ynghyd â swyddog prosiect y QWA.” Gall unrhyw artist lleol a hoffai arddangos eu gwaith gysylltu â’r QWA ar 01244 532352 am ragor o fanylion. Mae croeso i bawb ond rhaid i blant ddod yng nghwmni oedolyn.