Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i Arfordir Sir y Fflint

Published: 23/05/2018

Mae sefydliadau lleol a myfyrwyr o Sir y Fflint wedi bod yn cydweithio yn Nhalacre i amddiffyn a datblygu bioamrywiaeth ac amgylchedd arfordirol yr ardal – i gyd â’r nod o wneud gwahaniaeth cadarnhaol i Arfordir Sir y Fflint. Gwerthfawrogir y datblygiadau cyffrous, o ganlyniad i gydweithio ardderchog rhwng Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint, a myfyrwyr lleol o Goleg Cambria. Mae’r ddau grwp wedi cydweithio’n agos yn y gorffennol, gan ddefnyddio hen Goed Nadolig i gryfhau’r system twyni yn Nhalacre, ond ddechrau Mai, fe ddaethant at ei gilydd eto i roi cynnig ar ddyluniadau amddiffyn llyffantod cefnfelyn rhag ysglyfaethwyr. Mae myfyrwyr Coleg Cambria wedi defnyddio’r ardal yn rheolaidd i gyfranogi mewn prosiectau peirianneg, ond eleni, fe gyflwynwyd her wahanol i’r myfyrwyr. Dros gyfres o ymweliadau, fe weithiodd mwy na 30 o fyfyrwyr au darlithwyr ochr yn ochr â Cheidwaid y Gwasanaeth Cefn Gwlad a’r perchnogion tir, Eni, i ddylunio rhywbeth i amddiffyn y Llyffantod Cefnfelyn prin yn yr ardal, rhag ysglyfaethwyr. System twyni tywod ‘Twyni Gronant a Chwningar Talacre’ sydd â’r unig boblogaeth sefydledig o Lyffantod Cefnfelyn yng Nghymru. Dyma hefyd yr amffibiad mwyaf prin yn y DU, ac mae llawer iawn o waith yn mynd tuag at amddiffyn a monitro’r rhywogaeth bob blwyddyn. Pan sylweddolwyd yn ddiweddar bod rhai silod a phenbyliaid yn cael eu hymosod arnynt gan ysglyfaethwyr ym mhyllau Talacre, fe wnaeth y Gwasanaeth Cefn Gwlad gyflwynor dasg ou hamddiffyn i fyfyrwyr Coleg Cambria, ac maent wedi cyflawni canlyniadau gwych! Aeth ceidwaid i’r coleg i siarad â dau grwp o fyfyrwyr peirianneg a gosod y dasg iddynt o ddylunio rhywbeth i amddiffyn y Llyffantod Cefnfelyn rhag yr ysglyfaethwyr hyn. Wrth weithio mewn grwpiau, fe wnaeth y Ceidwaid ar Myfyrwyr nodi tri dyluniad i roi cynnig arnynt. Mae’r dyluniadau hyn bellach wedi’u gosod, a byddant yn cael eu monitro’n agos hyd ddiwedd y tymor. Meddai Ceidwad Arfordir a Chefn Gwlad Sir y Fflint, Tim Johnson, am y prosiect: “Mae myfyrwyr Coleg Cambria wedi bod yn dychwelyd yn rheolaidd i Dalacre dros y blynyddoedd, ac mae Tîm Cefn Gwlad Sir y Fflint yn ddiolchgar am y berthynas waith gref sydd wedi’i datblygu gydar Ceidwaid. Roedd y myfyrwyr ar y prosiect hwn yn dda iawn ac fe wnaethant weithio’n galed. Roeddent yn gallu addasu wrth i’r prosiect ddatblygu ac wrth i broblemau godi. “Hoffwn ddiolch i Anke Kadelka-Williams o Goleg Cambriaam ei chefnogaeth, flwyddyn ar ôl blwyddyn, a hefyd i’r myfyrwyr am eu hymdrechion. Maent yn grwp sy’n gweithio’n galed, yn gwrtais ac yn ddeallus, ac fe ddylai’r coleg fod yn falch ohonynt. Rydym yn gobeithio y gallwn barhau i weithio â’r coleg am flynyddoedd i ddod.” Dywedodd y Cyng. Carolyn Thomas, Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad: “Mae’r prosiect hwn yn tynnu sylw at werth partneriaethau gweithredol. Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth Coleg Cambria, sydd wedi cyfranogi ers nifer o flynyddoedd, ac rydym yn edrych ymlaen at waith partneriaeth yn y dyfodol. Da iawn a diolch i bawb a oedd ynghlwm wrth y gwaith i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i’r rhywogaeth hon.”