Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Published: 18/05/2018

Cabinet yn ystyried cynnydd blynyddol cadarnhaol y Cyngor Gofynnir i Aelodaur Cabinet ystyried adroddiad syn ymdrin â pherfformiad a chyflawniadau yn erbyn mesurau, cerrig milltir ar risgiau a nodir yng Nghynllun y Cyngor ar gyfer 2017/18 pan maent yn cyfarfod ar ddydd Mawrth, 22 Mai. Mabwysiadwyd Cynllun y Cyngor 2017/23 gan y Cyngor ym Medi 2017. Mae Cyngor Sir y Fflint wedi perfformio’n dda yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gan brofi unwaith eto ei fod yn Gyngor sy’n perfformion uchel. Mae hwn yn adroddiad cadarnhaol arall, gydag 83% o weithgareddau wedi’u hasesu fel gwneud cynnydd da, a 71% wedi cyflawni’r canlyniad a ddymunwyd. Mae dangosyddion perfformiad yn dangos cynnydd da, gyda 57% yn bodloni neu’n agos at darged y cyfnod. Maer risgiau yn cael eu rheolin llwyddiannus hefyd, gydar mwyafrif wediu hasesu fel cymedrol (63%)) neu fach (8%) neu’n ansylweddol (6%). Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton: “Drwy Gynllun y Cyngor, rydym yn blaenoriaethu ardaloedd a gwasanaethau sy’n bwysig i’n cymuned. Mae’n cael ei fonitro drwy gydol y flwyddyn i asesu a ydym am gyflawni ein targedau. Er gwaethaf yr heriau ariannol nas gwelwyd o’r blaen, mae’r Cyngor yn parhau i fod yn sefydliad sy’n perfformio’n dda, ac rwy’n hapus fod gennym lawer o lwyddiannau i fod yn falch iawn ohonynt. Mae rhai o’r llwyddiannau hynny yn cynnwys: · Llwyddo i sefydlu cwmni elusennol, ym mherchnogaeth y gweithwyr, o’r enw Aura, i reoli gwasanaethau hamdden, llyfrgell a threftadaeth yn y sir, o 1 Medi 2017. Ers yr amser hwnnw, maent wedi cadw gwasanaethau a swyddi wrth wneud arbediad effeithlonrwydd o 10% yn y gyllideb yn 2017/18 (effaith flwyddyn lawn o £0.574m). Yn ogystal, bydd dau ddatblygiad cyfalaf mawr, yng Nghanolfan Hamdden yr Wyddgrug, a Phafiliwn Jade Jones yn y Fflint, sy’n werth £2.4m, yn cael eu cwblhau eleni, wedi’u hariannu gan Aura am ddim cost i’r Cyngor na phreswylwyr Sir y Fflint. · Parhau i adeiladu cartrefi cyngor newydd, drwy ehangu ar y rhaglen i Goed-llai, yr Wyddgrug a’r Fflint, gyda 95 o gartrefi cymdeithasol a fforddiadwy’n cael eu hadeiladu yn ystod 2017/18, gyda 31 uned arall yn cael eu cwblhau yn ystod Ebrill 2018. · Parhau i wella tai cyngor gyda dros £19m wedi’i fuddsoddi yn 2017/18. Gosododd y tîm 1,000 o geginau newydd, 1,500 o ystafelloedd ymolchi newydd, disodli 100 o foeleri a gwres canolog, ac fe gafodd 250 o gartrefi welliannau toi ac elfennau allanol eraill. · Mae rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn parhau gyda datblygiad mawr o Ysgol Uwchradd Cei Connah, ac ysgol iau newydd sbon yn cael ei hadeiladu ym Mhenyffordd, i ddisodli’r ysgolion babanod ac iau cyfredol. · At ei gilydd yn 2017/18, bu 211 o ymholiadau busnes newydd, gan arwain at greu 2,341 o swyddi, a phum menter gymdeithasol newydd. Fe wnaeth 3,746 o bobl busnes ymgysylltu â Sir y Fflint mewn Busnes a Fforymau Busnes yn ystod y flwyddyn. Mae cyfran yr ymholiadau busnes sy’n trosi i fuddsoddiadau yn parhau i aros yn uchel ar 89%, gan ddangos bod Sir y Fflint yn lle gwych i wneud busnes. · Fe wnaeth 620 o bobl gwblhau rhaglenni wedi’u comisiynu gan y Cyngor, sy’n cyflawni canlyniadau swyddi a hyfforddiant. · Mae Llys Raddington yn y Fflint bron wedi’i gwblhau, a bydd yn darparu 72 uned o ofal ychwanegol. · Mae Credyd Cynhwysol yn un o’r diwygiadau lles mwyaf sylweddol hyd yma, ac mae Sir y Fflint yn Cysylltu wedi chwarae rhan allweddol wrth ddarparu cefnogaeth i’r rhai yr effeithir arnynt, gan ddelio â 3,340 o ymholiadau ers ei gyflwyniad ym mis Ebrill 2017. · Sicrhau cyllid ar gyfer Canolfan Ailgylchu Cartref newydd i wasanaethu’r Fflint a Chei Connah, a gwelliannau i Ganolfannau Ailgylchu Cartref eraill yn y Sir. Mae adnoddau yn parhau i fod yn her, ond er gwaethaf hyn, maer Cyngor wedi gallu pennu cyllideb gytbwys ar gyfer 2018/19 drwy ddefnyddio atebion y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a chymryd ymagwedd risg cytbwys, o reoli pwysau cost ac amrywiadau yn ystod y flwyddyn. Mae perfformiad ar draws y Cyngor yn parhau i fod yn gryf; fe wnaeth dros 57% o fesurau fodloni neu ragori ar dargedau, ac roedd hanner yr holl ddangosyddion y gellid eu mesur yn eu herbyn y llynedd, wedi aros yn sefydlog neu wedi gwella. Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett: “Er gwaethaf pwysau ariannol mawr a llai o gyllid cenedlaethol, mae Sir y Fflint wedi bod yn greadigol ac wedi llwyddo i gyflawni ei nodau am flwyddyn arall. Mae rhai prosiectau wedi dod i ben, mae rhai yn parhau ac am symud ir flwyddyn nesaf, wrth i Sir y Fflint barhau i gyrraedd a rhagori ar dargedau, er gwaethaf yr heriau economaidd parhaus.