Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyhoeddi rhagor o ddyddiadau ar gyfer Clybiau Menter Sir y Fflint

Published: 16/05/2018

Mae rhagor o ddyddiadau wedi cael eu cyhoeddi ar gyfer dau Glwb Menter yn Sir y Fflint. Gall mynychu un o’r Clybiau yma roi cymorth i entrepreneur addawol gyrraedd y cam nesaf - boed chi newydd gychwyn arni neu os ydych chin fusnes sefydledig sydd yn chwilio am syniadau newydd ac ysbrydoliaeth. Mae’r Clybiau yn rhad ac am ddim ac mae’n gwahodd siaradwyr a chynghorwyr o asiantaethau eraill. Maer sesiynau bob amser yn gyfeillgar, yn llawn gwybodaeth ac yn llawn egni, cydweithrediad, ysbrydoliaeth a syniadau! Dywedodd un person sydd wedi symud i’r ardal yn ddiweddar ac a fynychodd y Clwb Menter gwreiddiol yn Shotton: “Mae’r clwb yma wedi rhoi llawer o gymorth ac anogaeth i mi, mae wedi bod yn wych. Mae aelodau eraill yn rhannu syniadau ac yn rhoi adborth adeiladol mewn amgylchedd diogel. I mi sydd wedi symud ir ardal yn ddiweddar, mae wedi bod yn gyfle i mi wneud ffrindiau da hefyd.” Mae’r Clwb yn dal i gwrdd bob pythefnos yn Ystafell Gloucester yng Nghanolfan Fenter Glannau Dyfrdwy rhwng 10:30am a 12:30pm. Y dyddiadau nesaf ydi 18 Mai, 1, 15 a 29 Mehefin a 13 a 27 Gorffennaf. Cynhaliodd y Clwb Menter mwyaf newydd ei gyfarfod cyntaf yn Nhreffynnon ddydd Mercher, 9 Mai rhwng 1:30pm a 3:30pm yn Kim Inspire, The Hub, Park Lane. Roedd yn canolbwyntio ar gefnogaeth a chyfleoedd rhwydweithio a chafodd y gweithdai eu cyflwyno gan Sandra Donoghue “Mingle for Business”, y mae ei phrofiad o weithio gyda grwp Shotton wedi bod yn llwyddiannus iawn. Y dyddiadau nesaf y bydd Clwb Menter Treffynnon yn cwrdd ydi: 23 Mai, 6 a 20 Mehefin, 4 a 18 Gorffennaf. Os hoffech gofrestru, cysylltwch â Beverly Moseley ar beverly.moseley@flintshire.gov.uk neu 01244 846090.