Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rhaglen Buddsoddiad Adfywio wedi’i Dargedu (TRIP)

Published: 11/05/2018

Gofynnir i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Menter Cyngor Sir y Fflint adolygu strategaeth adfywio rhanbarthol ddrafft ar gyfer cyflwyno i Llywodraeth Cymru pan y byddant yn cyfarfod ddydd Mercher 16 Mai. Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio’r rhaglen Buddsoddiad Adfywio wedi’i Dargedu (TRI) i ddarparu nawdd i brosiectau adfywio ar draws Cymru. Bydd yn weithredol am dair blynedd gan ddechrau o 1 Ebrill ac yn disodlir cynllun Llefydd Llewyrchus Llawn Addewid a ddaeth i ben yn 2017. Gweithredwyd agwedd gydweithiol ar draws Gogledd Cymru i ddatblygu a blaenoriaethu buddsoddiad ac i grynhoi adnoddau cyfyngedig i ardaloedd gyda blaenoriaeth i adfywio. Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint: “Mae cydweithio fel rhanbarth yn gwneud synnwyr gan fod gennym grwpiau cydweithredol sefydledig yn barod. Bydd Grwp Swyddogion Adfywio Gogledd Cymru yn gofalu am reoli dyddiol TRIP a bydd yn cael ei oruchwylio gan Grwp Rheolir Rhaglen Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru. Cytunwyd y dylid cael strategaeth adfywio Gogledd Cymru sy’n gosod gweledigaeth ac amcanion ar gyfer adfywio tan 2035.” Mae strategaeth ddrafft adfywio Gogledd Cymru, sy’n nodi’r 12 tref blaenoriaeth yn y rhanbarth, yn cynnwys Shotton a Threffynnon, yn cynnig y blaenoriaethau canlynol: · Lleihau anghydraddoldeb · Cynyddu swyddi · Moderneiddio canol trefi · Gwella’r cynnig tai · Cryfhau economi’r ymwelwyr · Diogelu’r economi gwledig · Gwella iechyd y bobl leol Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi dyraniad tybiedig o £22m dros dair blynedd ar gyfer Gogledd Cymru, hanner y swm a ddyrannwyd i Llefydd Llewyrchus Llawn Addewid. Mae’r fframwaith buddsoddiad drafft yn cynnig pedwar ardal i’w hadfywio yn ogystal â thri phrosiect rhanbarthol sy’n gymwys i bob ardal ac yn cynnwys tair blynedd y nawdd TRI sydd ar gael ar hyn o bryd. Pan gaiff y rhaglen TRI ei hymestyn tu hwnt ir cyfnod tair blynedd bresennol ac wrth i nawdd arall gael ei ryddhau, bydd angen i’r penderfyniadau dyrannu ystyried yr ardaloedd eraill i sicrhau eu bod i gyd yn derbyn y gefnogaeth angenrheidiol. Aeth y Cynghorydd Butler yn ei flaen: “Er nad yw ddau o drefi Sir y Fflint, Treffynnon a Shotton, yn ymddangos yn y pedwar ardal adfywio uchaf, mae dau brosiect adfywio rhanbarthol y gallant fod yn gymwys iddynt – adnewyddu tai yn bennaf, a fydd yn caniatáu darparu camau pellach i’r cynlluniau atgyweirio grwp, ac yn ail, adeiladau pwysig, a fydd yn caniatáu adfywiad adeiladau allweddol i ganol trefi. “Byddwn yn chwilio am gyllid datblygu i nodi ac asesu adeiladau addas i’w hadfywio. Gall hyn gyfrannu at ddarpariaeth Strategaeth Treftadaeth y Cyngor.”