Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Beicwyr Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy

Published: 15/05/2018

Mae llwybr 568 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn rhedeg rhwng Caer, ar hyd glannau’r Afon Ddyfrdwy a Pharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy a thu hwnt i Burton a Neston ar y Wirral. Mae’r rhan fwyaf or llwybr drwy Sir y Fflint yn ddi-draffig, ar wahân i ran o fewn Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy lle mae gwaith bellach yn mynd rhagddo i ddarparu llwybr beic defnydd cymysg oddi ar y ffordd fawr, ar hyd Tenth Avenue ym Mharth 3 y Parc. Yn ddiweddar bu Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas yn ymweld â’r safle i weld y gwaith a siarad gyda beicwyr lleol. Meddai: “Mae’r beicwyr yn falch iawn gyda’r gwaith sy’n cael ei wneud. Bydd y llwybr beiciau yn darparu’r cysylltiad coll ar gyfer hamdden, a hefyd yn darparu mynediad beicio uniongyrchol i bob busnes ym Mharth 3 gan gynnig ffordd iach, egnïol a fforddiadwy i gyrraedd y gwaith.