Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwobr Prentisiaeth

Published: 03/05/2018

Cafodd hyfforddeion y Cyngor yn Academi Sir y Fflint, sy’n gweithio tuag at eu prentisiaethau neu sydd wedi eu cwblhaun llwyddiannus, eu llongyfarch mewn seremoni wobrwyo yng Nghanolfan Chweched Glannau Dyfrdwy yn ddiweddar. Bob blwyddyn caiff nifer o brentisiaid eu recriwtio i weithio ar draws y Cyngor. Ar hyn o bryd, mae 70 o brentisiaid yn cael eu hyfforddi mewn lleoliadau ar draws y sefydliad. Mae’r prentisiaid fel arfer yn mynd i Goleg Cambria am ddyddiau astudio dros ddwy neu dair blynedd tra byddant yn cael eu hyfforddi a’u hasesu yn y gweithle. Tri enillydd y gwobrau hyglod yw: Mark Hanson - enillydd Hyfforddai Goraur Flwyddyn Sir y Fflint ac yn ail orau, Alice Foster a Rhian Chitty. Emma Popa – Hyfforddai Sylfaen y Flwyddyn Sir y Fflint, ac yn ail orau Georgia Bedford a Ruby Clarke Lucinda Dodd – Gwobr Anrhydedd Derbyniodd yr enillwyr eu tlysau gan Brif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett, ac Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton. Mae Marc yn brentis Gyfrifydd ac yn byw yn Nhreffynnon. Wrth gyflwyno’r wobr iddo, meddai Cynghorydd Shotton: “Mae Mark yn rhagori yn ei weithle ac yn y coleg. Mae o’r math o weithiwr y byddai pob rheolwr yn hoffi eu cael ar eu tîm - dymunol, diwyd a hyderus. Mae ganddo’r gallu a’r agwedd gywir i wneud cynnydd yn ei yrfa. Mae’n weithiwr neilltuol ac yn fyfyriwr neilltuol. Mae’n wir gaffaeliad i’r Cyngor.” Mae Emma o Shotton yn brentis lyfrgellydd. Wrth gyflwyno’r wobr iddi, meddai Cynghorydd Shotton: “ Mae Emma yn gweithio’n galed, yn gadarnhaol, yn frwdfrydig ac yn fodel rôl rhagorol. Mae ganddi’r awch i weithio, yr agwedd a’r gallu i fynd yn bell yn ei gyrfa. Maer ffaith y gofynnwyd iddi hi gyflwyno ei gwaith mewn cynhadledd genedlaethol a hithaun dal i fod yn brentis yn ysbrydoliaeth. Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch iawn fod Emma’n rhan o’r tîm - mae hi’n gaffaeliad i’r Cyngor ac i Aura. Cyflwynwyd y Wobr Anrhydedd i Lucinda Dodd sy’n byw yng Nghaer. Cyflwynir y wobr hon i rywun sydd wedi dangos gwir addewid yn eu rôl fel gwas cyhoeddus; rhywun sydd wedi ymdrechu’n gyson i wneud eu gorau yn ystod eu prentisiaeth ac wedi dangos penderfyniad ac awch am ddysgu a gweithio; rhywun sydd wedi gweithio fel llysgennad dros brentisiaid a’r Cyngor a rhywun yr ydym i gyd yn eu parchu ac yn eu hedmygun fawr. Meddai Colin Everett, y Prif Weithredwr: “Rydym yn falch iawn o’n cynllun prentisiaid yn Sir y Fflint, sy’n cael ei gydnabod gan awdurdodau eraill a darparwyr addysg bellach fel arfer da gyda’n partneriaeth gyda Choleg Cambria. Mae ein cyfradd llwyddiant yn rhagorol gyda 98% o’n hyfforddeion yn ennill swyddi naill ai gyda’r Cyngor neu’n allanol ac eraill yn mynd ymlaen i’r Brifysgol i barhau â’u hastudiaethau. Meddai Steve Jackson, Dirprwy Brif Weithredwr Coleg Cambria, a fynychodd y digwyddiad: “Rydym yn falch dros ben fod y digwyddiad mawreddog hwn yn cael ei gynnal yn ein Coleg ni. Mae’r coleg yn gweithio’n agos â’r Cyngor i ddarparu rhaglen brentisiaeth sy’n caniatáu i bobl o bob oed ennill cymwysterau ar yr un pryd a meithrin sgiliau a phrofiad ymarferol yn y gweithle. Mae’n braf gweld agwedd mor gadarnhaol sydd gan y Cyngor tuag at hyfforddiant a’u bod wedi llwyddo i benodi a datblygu prentisiaid mor anhygoel o dalentog.” Mae’r Cyngor yn awr yn dymuno recriwtio 20 o bobl i ymuno â rhaglen brentisiaethau 2018. Mae’r ficrowefan ar waith ac yn cynnwys gwybodaeth am yr holl brentisiaethau. Er mwyn gweld y wybodaeth ac i wneud cais, ewch i www.flintshire.gov.uk/trainees