Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyhoeddi Cadeirydd ac Is-Gadeirydd Newydd

Published: 03/05/2018

Ddydd Mawrth, 1 Mai, etholwyd y Cynghorydd Paul Cunningham fel Cadeirydd gan Gyngor Sir y Fflint. Mae’r Cynghorydd Cunningham wedi bod yn aelod o Gyngor Sir y Fflint ers mis Ebrill 2014. Mae’r Cynghorydd Cunningham yn byw yn y Fflint ac yn briod â Joan, mae ganddynt bedwar o blant a chwe wyres. Bydd Mrs. Cunningham yn gymar i’r Cynghorydd Cunningham. Dywedodd y Cynghorydd Cunningham: “Rwyf yn falch iawn o gael fy ethol yn Gadeirydd i Gyngor Sir y Fflint ar gyfer y flwyddyn i ddod. Braint yw cael cynrychioli Sir mor ardderchog â’r un rydym yn byw ynddi. Byddaf yn cyflawni fy nyletswyddau hyd eithaf fy ngallu ac yn cynrychioli Sir y Fflint â balchder.” Yr Is-Gadeirydd ar gyfer y 12 mis nesaf fydd y Cynghorydd Marion Bateman sy’n cynrychioli Llaneurgain, ac sydd wedi bod yn aelod o’r Cyngor ers mis Tachwedd 2009. Bun Aelod yng Nghyngor Cymunedol Llaneurgain dros Sychdyn am sawl blwyddyn ac wedi bod yn Gadeirydd ar y Cyngor yn y gorffennol. Mae hi’n llywodraethwr yn Ysgol Sychdyn ac yn aelod o Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru. Mae’r Cynghorydd Bateman yn briod â Haydn ac mae ganddynt un mab a wyrion sy’n efeilliaid. Bydd y Cynghorydd Haydn Bateman yn gymar iddi.