Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn cynnal digwyddiad dinesig ar gyfer Laura Deas

Published: 24/04/2018

Roedd Cyngor Sir y Fflint yn falch iawn o groesawu Laura Deas, enillydd medal Olympaidd, i dderbyniad dinesig mewn cyfarfod Cyngor diweddar. Enillodd Laura fedal efydd yng nghystadleuaeth ysgerbwd y merched yng Ngemau Olympaidd y gaeaf yn ddiweddar yn Pyeongchang, ynghyd â’i chyd-aelod tîm Lizzy Yarnold, a lwyddodd i ddal gafael ar ei medal aur. Bu Laura, a gafodd ei magu yn Llanfynydd yn Sir y Fflint, yn cystadlu ym myd marchogaeth yn broffesiynol cyn newid i’r ysgerbwd. Mae hi hefyd wedi capteinio tîm Cymru yn y cystadlaethau tetrathlon rhyngwladol ac wedi cynrychioli Gogledd Cymru wrth chwarae hoci. Daeth at gamp ysgerbwd merched drwy raglen UK Sport i ddod o hyd i dalent, Girls4Gold. Dywedodd Laura: “Mae gen i gefndir chwaraeon, ond yn sicr nid un gwibio. Pan ges i fy newis ar gyfer yr ysgerbwd yn 2008, ro’n i’n dilyn gyrfa mewn marchogaeth ac ‘eventing’, a’r unig brofiad o redeg oedd gen i oedd drwy gaeau mwdlyd mewn rasys traws gwlad! Er nad ydi o’n amlwg, mae ’na lawer yn debyg rhwng marchogaeth ac ysgerbwd oherwydd mae teimlo beth sy’n digwydd o danoch chi, gwneud penderfyniadau sydyn, cydbwysedd da, amseru a rythm yn rannau mawr o’r ddwy gamp.’Dw i’n meddwl bod fy nghefndir marchogaeth i wir wedi helpu i addasu i ysgerbwd yn eithaf sydyn. Dywedodd Cadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Brian Lloyd: “Dw i’n falch iawn bod Laura a’i gwesteion wedi gallu ymuno hefo ni yn Neuadd y Sir i’w llongyfarch hi ar ei champ arbennig. Da o beth ydi bod Sir y Fflint, ei chartref lle cafodd ei magu, yn cydnabod ei chyraeddiadau ac mae hwn wedi bod yn gyfle i ddiolch iddi ai llongyfarch yn ffurfiol. Ar ein rhan ni i gyd yng Nghyngor Sir y Fflint, rydw i’n dymuno pob llwyddiant i Laura yn y dyfodol.”