Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun lles

Published: 20/04/2018

Gofynnir i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gefnogi Cynllun Lles Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint (“y Cynllun) pan fydd yn cyfarfod yn ddiweddarach y mis hwn. Mae Cyngor Sir y Fflint yn bartner statudol ac yn bartner arweiniol ar gyfer cydlynu’r Cynllun a fydd yn cael ei fabwysiadu mewn cyfarfod o’r Cyngor Sir llawn yn ddiweddarach yr un diwrnod. Mae gan Sir y Fflint hanes hir a balch o weithio mewn partneriaeth. Mae’r cymunedau a wasanaethir ganddi yn disgwyl i bartneriaid statudol a thrydydd sector weithio gyda’i gilydd gyda blaenoriaethau wedi’u rhannu. Mae pob partner sector cyhoeddus wedi dangos ymrwymiad cryf i gydweithio i gyflawni gweledigaeth a blaenoriaethau cyffredin ar gyfer lles ein sir yn y dyfodol. Ffurfiwyd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) yn Ebrill 2016, fel cyfrifoldeb statudol Deddf Llesiant Cenedlaethaur Dyfodol (Cymru) 2015. Roedd ei waith yn canolbwyntio ar gynhyrchu’r Asesiad Lles a datblygu’r Cynllun Lles, a gyhoeddir ym Mai 2018. Mae’r Cynllun wedi’i ddatblygu ochr yn ochr â Chynllun y Cyngor ac mae blaenoriaethau’r ddau wedi’u halinio’n gryf. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: “Mae pob partner wedi gweithion dda iawn gydai gilydd, gan ddangos creadigrwydd, parodrwydd ac atebolrwydd, o fewn fframwaith arweinyddiaeth cryf. “Nod lefel uchel BGC Sir y Fflint yw “gwarchod, cynnal a gwella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Sir y Fflint drwy gydweithio fel un gwasanaeth cyhoeddus. Ar ôl gweld y gefnogaeth frwdfrydig gan bob partner BGC, rwy’n hyderus y gallwn gyflawni hyn gyda’n gilydd. “Mae’r Cynllun yn cyd-fynd yn dda â’r gwaith arall a wneir yn y rhanbarth i wella ein hisadeiledd, a darparu mwy o gyfleoedd cyflogaeth i’n preswylwyr lleol.” Mae’r BGC wedi dewis a chefnogi pum blaenoriaeth ar gyfer y Cynllun Lles, fel a amlinellir isod: ? Diogelwch Cymunedol ? Economi a Sgiliau ? Yr Amgylchedd ? Byw yn Iach ac Annibynnol ? Cymunedau Gwydn