Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn cydnabod canmlwyddiant yr Awyrlu

Published: 18/04/2018

Gan fod RAF100 wedii lansio ym mis Ebrill, bu i Gyngor Sir y Fflint nodir achlysur drwy godi Lluman yr Awyrlu Brenhinol yn Neuadd y Sir. Mae RAF100 yn ymgyrch ar draws y DU i nodi 100 mlynedd ers ffurfio awyrlu cyntaf – ac enwocaf – y byd. Wrth fyfyrio ar ei hanes balch o wasanaethu’r gwledydd, mae’r Awyrlu eleni’n coffáu gwasanaeth ac aberth y rhai a fu, gan ddiolch ir dynion ar merched sydd yn ac sydd wedi gwasanaethu am eu hymroddiad ac ysbrydolir genhedlaeth nesaf fel y gallwn, gydan gilydd, barhau i siapio ein byd am y 100 mlynedd nesaf a thu hwnt. Dywedodd y Cynghorydd Brian Lloyd, Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint: “Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o sefyll gyda sefydliadau eraill i ddathlu ein hawyrlu enwog. Fel teyrnged i ymrwymiad, dewrder a hunanaberth y rhai sy’n gwasanaethu yn yr Awyrlu heddiw a rhai’r gorffennol, rydyn ni’n codi Lluman yr Awyrlu yn Neuadd y Sir. Mae rhan bwysig i’r Awyrlu yn hanes y DU ac mae’n parhau i warchod ac amddiffyn ein gwledydd au buddiannau tramor. Dywedodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin, Cefnogwr y Lluoedd Arfog: Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i gefnogi pob un on Lluoedd Arfog a’u cyn-wasanaethwyr ac, fel Cefnogwr y Lluoedd Arfog, rydw i’n falch bod Sir y Fflint heddiw yn cydnabod dynion a merched dewr yr Awyrlu wrth iddo ddathlu ei ganmlwyddiant. Am ragor o wybodaeth am ddigwyddiadau ar draws y DU, ewch i https://www.raf.mod.uk/raf100/.