Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diweddariad Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS)

Published: 17/04/2018

Gofynnir i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol Cyngor Sir y Fflint nodi’r rhagolwg wedi’i ddiweddaru ar gyfer yr MTFS, pan fydd yn cyfarfod nesaf 19 Ebrill. Mae’r Cyngor yn adolygu’r MFTS bob blwyddyn, a bydd yr adroddiad cychwynnol hwn yn rhoi’r cyfle i’r Pwyllgor ystyried y sefyllfa ariannol gyfredol, a’r atebion posibl ar gyfer 2019/20. Mae hwn yn gam cyntaf pwysig yn y broses o bennu’r gyllideb flynyddol, sy’n ystyried pwysau cenedlaethol, lleol, gweithlu a gofal cymdeithasol, yn ogystal â chwyddiant. Oherwydd nifer o feysydd o ansicrwydd yn ystod y cam cynnar hwn or broses gyllidebu, maer bwlch posibl yn y gyllideb ar gyfer 2019/20 yn amrywio o £6m i £15m, gyda rhagamcaniad lefel uchel o £10.6m, gan brofi unwaith eto fod gan y Cyngor her sylweddol er mwyn gallu mantoli ei gyllideb. Bydd unrhyw arbedion a wneir yn ychwanegol at yr arbedion effeithlonrwydd sylweddol o £79m mae’r Cyngor wedi’u gwneud dros ddeng mlynedd, wrth ddiogelu gwasanaethau lleol a swyddi, er gwaethaf bod yn Gyngor a ariennir yn isel. Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Aaron Shotton: “Mae angen i ni weithio’n galetach nag erioed, i gynllunio a darparu gwasanaethau hanfodol o’r cyngor yn y cyfnod parhaus hwn o galedi ariannol. Mae’r fformwla ariannu ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru yn golygu bod Sir y Fflint yn arbennig o agored i effeithiau gostyngiadau sylweddol yn y gyllideb flynyddol, wrth eu cyfuno ag anghenion cynyddol ein preswylwyr ar gyfer gwasanaethau allweddol, fel gofal cymdeithasol ac addysg. “Mae pob maes gwasanaeth o’r cyngor yn destun adolygiadau helaeth a pharhaus, ac fe’u holir sut y gallant ymateb i’r pwysau costau na welwyd eu math o’r blaen. “Yn ogystal â galw cynyddol am wasanaethau a gostyngiadau pellach wediu rhagweld o ran grant y Llywodraeth, maer Cyngor yn gorfod wynebur posibilrwydd o bwysau ariannol cynyddol o benderfyniadau polisi a gymerir yn genedlaethol, nad ydynt wediu hariannun llawn ar lefel DU a Llywodraeth Cymru, yn fwyaf nodedig, cytundebau cyflog staff ac athrawon Llywodraeth Leol a newidiadau i hawliadau gofal cymdeithasol. “Bydd y Cyngor yn parhau i ymgyrchu a lobïo ar gyfer y gefnogaeth angenrheidiol gan ein Llywodraethu dros y misoedd i ddod, er lles preswylwyr ein sir. Mae’r galw cynyddol ar ofal cymdeithasol yn parhau i gyflwyno heriau sylweddol, ac mae buddsoddiad yn y maes hwn wedi’i gynnwys yn y gyllideb ar ben uchaf y raddfa, nes bod mwy o waith manwl yn cael ei wneud. Mae pwysau cost ar addysg ac ysgolion yn parhau i fod yn un o’r heriau mwyaf i’r gyllideb barhaus, ochr yn ochr â gofal cymdeithasol.