Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Bydd Swyddog Cyswllt y Lluoedd Arfog Yma i CHI

Published: 12/04/2018

Mae rôl Swyddog Cyswllt y Lluoedd Arfog wedi’i chreu i gryfhau darpariaeth Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog ar draws rhanbarth Gogledd Cymru drwy sicrhau bod staff sy’n gwasanaethu, cyn-filwyr a’u teuluoedd yn cael eu trin yn deg a chyda pharch. Swyddog Cyswllt y Lluoedd Arfog ar gyfer Sir y Fflint, Wrecsam a Sir Ddinbych yw Janette Williams ac mae wedi bod yn ei swydd ers mis Medi 2017. Mae’r rôl yn cael ei hariannu am 2 flynedd gan y Weinyddiaeth Amddiffyn ac mae ei rôl yn cynnwys: · Adolygu polisïau a gweithdrefnau presennol Awdurdod Lleol mewn meysydd yn cynnwys Adnoddau Dynol, Gofal Cymdeithasol, Addysg a Thai. · Sicrhau bod anghenion y Gymuned Lluoedd Arfog yn cael eu hystyried yng nghynlluniau strategol newydd yr Awdurdod Lleol a newidiadau gwasanaeth. · Ceisio sefydlu maint a chyflenwad Cymuned Lluoedd Arfog y rhanbarth, a sefydlu llinellau cyfathrebu clir fel y gall gwybodaeth lifo i aelodau’r gymuned yn fwy effeithiol. Dywedodd Janette am ei phenodiad: “Bydd y rôl hon yn heriol a gwobrwyol ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gydag amrywiaeth o bartneriaid. Roedd fy nhad a’m gwr yn gwasanaethu yn y Llu Awyr Brenhinol ac rwy’n falch o gael y cyfle hwn i roi rhywbeth yn ôl i Gymuned y Lluoedd Arfog. “Nid dim ond delio â phroblemau yw fy rôl, ond wrth gwrs, pan fo angen gwneud hyn, dyma fydd fy mlaenoriaeth. Fodd bynnag, byddwn hefyd wrth fy modd yn clywed am gyfleoedd yng nghymunedau Sir y Fflint i’r Lluoedd Arfog a phreswylwyr lleol ddod at ei gilydd. Fel rhan o’r gwaith hwn, byddaf yn mynychu unrhyw ddigwyddiadau sy’n rhoi cyfle i mi godi ymwybyddiaeth o’r cyfamod a beth mae’n ei olygu. Gallaf hefyd gynorthwyo gydag unrhyw syniadau am ariannu prosiectau lleol drwy gronfa cyfamod y Weinyddiaeth Amddiffyn, sy’n gobeithio cefnogi gweithgareddau cyfun ar gyfer pob aelod o Gymuned y Lluoedd Arfog a phreswylwyr lleol.” Dywedodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin, Cefnogwr y Lluoedd Arfog Cyngor Sir y Fflint: “Mae’n wych bod Janette wedi’i phenodi i’r rôl hon ac rwyf yn gweithio gyda hi eisoes i ymgysylltu gyda’n cymunedau lleol, busnesau a sefydliadau elusennol i gefnogi ein cymuned Lluoedd Arfog, gyda’r nod o ganfod a chael mynediad i gyfleoedd ariannu a fydd o fudd iddyn nhw.” I gysylltu â Janette, ffoniwch 07773 084630 neu anfonwch e-bost at afcc@flintshire.gov.uk.