Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dathliad y teithwyr amser o wanwyn

Published: 22/03/2018

Mae Archifdy Sir y Fflint unwaith eto’n gwahodd teithwyr amser ifanc i ddod i blannu hadaur hanner tymor hwn. Bydd dathliad y Teithwyr Amser Bychain o wanwyn yn cael ei gynnal ddydd Mercher 4 Ebrill am 10.30am yn y Swyddfa Gofnodion ym Mhenarlâg. Gall babanod a phlant hyd at 7 oed ddod draw gyda’u rhieni, gofalwyr neu warcheidwaid i gael hwyl yn dysgu am hanes trwy luniau, storïau, crefftau a cherddoriaeth. Bydd y sesiwn yn para awr ac maer cyfan yn rhad ac am ddim. Mae archebu lle’n hanfodol, felly peidiwch ag oedi! I archebu lle, neu i gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at archives@flintshire.gov.uk neu ffoniwch 01244 532364.