Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rhaglen ESGYN yn helpu pobl ar eu ffordd i yrfa mewn lletygarwch

Published: 21/03/2018

Yn dilyn rhaglen hyfforddi arloesol or enw Camu i mewn i Letygarwch, cafodd gyfranogwyr eu tystysgrifau mewn dathliad ym Mrychdyn. Cynhaliwyd y cwrs, wedi’i ariannu gan ESGYN sy’n cefnogi pobl ddi-waith hirdymor yn ôl i waith, am bum niwrnod dros gyfnod o bythefnos yn Ystafell Busnes Regus ym Mharc Manwerthu Brychdyn. Yn ystod eu hamser ar y cwrs dysgodd y 12 unigolion o Sir y Fflint am ddiogelwch bwyd, gwasanaethau i gwsmeriaid, cymorth cyntaf brys ac iechyd a diogelwch. Derbyniwyd hyfforddiant hefyd ar sut i ddefnyddio til. Bydd y cwrs achrededig yn eu helpu i ganfod cyflogaeth yn y dyfodol. Bydd mentor ESGYN, Debbie Barker yn gweithio gyda’r unigolion i ddod o hyd i leoliadau gwaith posib a chyflogaeth iddyn nhw gan gynnwys gwaith ym Mharc Manwerthu Brychdyn. Roedd Jake Doyle a Jess Randall, sydd iw gweld yn dysgu sut i ddefnyddio diffibriliwr gyda thiwtor y cwrs Mark Hughes o Groundwork Gogledd Cymru, yn falch o gael mynychu’r cwrs. Meddai Jake o’r Wyddgrug: “Mae wedi bod yn hynod o ddefnyddiol ac yn llawer o hwyl hefyd. Dwi’n teimlo fy mod i wedi dysgu llawer ac wedi ennill cymwysterau gydar gobaith y bydd yn fy helpu i ddod o hyd i waith.” Dywedodd Jess o Cei Connah: “Mae gwneud y cwrs heb os wedi fy ngwneud yn fwy o gaffaeliad i gyflogwyr. Mae’r cwrs cymorth cyntaf yn ddefnyddiol mewn sefyllfa gwaith, ac yn fam i dri o blant gallaf ddefnyddio’r sgiliau adref hefyd. Dwi hefyd yn gwneud cwrs cyfrifyddiaeth SAGE trwy’r rhaglen ESGYN a gellir ei wneud ar-lein tra bod y plant yn yr ysgol syn ddefnyddiol iawn i mi. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr i ddod o hyd i waith diolch i’r cyrsiau ESGYN.” Ni allai Mark Hughes yr hyfforddwr ganmol y grwp ddigon: “Maent wedi bod yn anhygoel, dwi wedi mwynhau gweithio gyda nhw’n fawr ac maent i gyd yn cymryd diddordeb go iawn ac yn awyddus i ddysgu. Mae’n deimlad gwych gallu eu helpu i gyflogaeth – dwi wedi gwylio nhw’n magu hyder ac wedi gweld pob un yn datblygu mewn sawl ffordd wahanol.” Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint: “Mae gallu rhedeg rhaglenni hyfforddiant fel hyn gyda chefnogaeth ein partneriaid yn hanfodol ar gyfer ein heconomi leol. Mae angen i ni fuddsoddi mewn pobl leol fel eu bod yn gallu manteisio ar y cyfleoedd cyflogaeth yn yr ardal. Rwyn falch iawn bod y cwrs hwn wedi bod yn llwyddiannus ac rwyn dymunor gorau i bawb ar gyfer y dyfodol. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Debbie Barker ar 01244 846090 neu debbie.barker@Flintshire.gov.uk.