Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llofnodi’r trawst yn Ysgol Uwchradd Cei Connah

Published: 16/03/2018

Mae’r rhaglen foderneiddio yn Ysgol Uwchradd Cei Connah yn parhau i fynd o nerth i nerth. Mae’r trawstiau a’r fframwaith ddur wedi cyrraedd ac mae pethau’n dechrau syrthio i’w lle. Dathlwyd hyn yn ddiweddar mewn digwyddiad “llofnodi’r trawst” ller oedd cynghorwyr, swyddogion a chynrychiolwyr y contractwr, Kier Construction o Wrecsam yn bresennol. Canolbwynt y gwaith yw disodli’r bloc Dylunio a Thechnoleg presennol a’r bloc Celf a Thechnoleg Bwyd a fydd yn cael eu disodli gan adeilad deulawr sy’n cynnwys ardal weinyddu, Dylunio a Thechnoleg, Technoleg Bwyd, Celf a Dylunio ac ystafell ar gyfer darpariaeth addysgu, gofod swyddfa, toiledau, lifft, grisiau ac ystafell offer. Mae’r gwaith yn rhan o Raglen Ysgolion yr 21ain ganrif ac Addysg Llywodraeth Cymru ac yn dilyn llwyddo i gwblhau Campws Addysgu Treffynnon a Choleg 6ed Dosbarth Glannau Dyfrdwy a gwaith a fydd yn dechraun fuan ar ysgol gynradd newydd ym Mhenyffordd. Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Aaron Shotton: “Mae’r Cyngor yn parhau i weithio i ddarparu addysg gynaliadwy o ansawdd uchel in holl ddysgwyr. Roedd yn bleser ymweld ag Ysgol Uwchradd Cei Connah a gweld y gwaith o godir adeilad newydd yn dechrau siapio. Bydd y datblygiadau yn yr Ysgol yn trawsnewid y cyfleusterau addysgu sydd ar gael yng Nghei Connah ac rwy’n edrych ymlaen i weld y gwaith yn cael ei gwblhau erbyn dechrau 2019.” Dywedodd Colin Sinclair, Cadeirydd y Llywodraethwyr: “Mae’r bloc dysgu newydd cyffrous hwn yn cael ei adeiladu i safon uchel, i ddarparu cyfleusterau modern o’r radd flaenaf ar cyfleoedd dysgu gorau in dysgwyr ar gymuned ehangach. Rwy’n edrych ymlaen i weld yr adeilad hwn yn datblygu dros y misoedd nesaf. Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams: “Rwy’n falch fod gwaith yn datblygu ar y cyfleuster newydd modern hwn syn elwa o gyllid Llywodraeth Cymru. Ein cenhadaeth genedlaethol yw codi safonau, lleihau’r bwlch o ran cyrhaeddiad a chyflwyno system addysg sy’n destun balchder a hyder cenedlaethol. Mae gan ein Rhaglen Ysgolion yr 21ain ganrif ac Addysg ran allweddol yn hyn a dyma’r buddsoddiad mwyaf yn ein hysgolion a’n colegau ers yr 1960au. Dywedodd John O’Callaghan, Rheolwr Gyfarwyddwr Gogleddol Kier Construction: “Mae’r digwyddiad llofnodi’r trawst yn garreg filltir nodedig yn y rhaglen foderneiddio ar gyfer Ysgol Uwchradd Cei Connah; mae’r gwaith dur wedi cael ei ddarparu gan gwmni lleol Evadx Limited ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw wrth i ni adeiladu’r bloc addysgu deulawr, a fydd yn cynnig cyfleusterau o’r radd flaenaf i fyfyrwyr ar ôl ei gwblhau.”