Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwelliannau ffordd yn cael eu croesawu

Published: 28/03/2018

Mae gwelliannau i gyffordd yr A548 a’r A5026 ym Magillt yn agos at eu cwblhau. Sicrhaodd Cyngor Sir y Fflint gyllid gan Lywodraeth Cymru trwyr Grant Diogelwch Ar y Ffyrdd ar gyfer y cynllun hwn a fydd yn gwella diogelwch holl ddefnyddwyr y gyffordd hon sydd â chofnod hanesyddol o wrthdrawiadau. Maer gwelliannau newydd yn cynnwys: - Newidiadau i’r lonydd ar ffordd ddynesu’r A548 at y gyffordd gan gynnwys cyflwyno “ynysoedd hollti” (sy’n gwahanu traffig gwrthwynebol) - Gosod signalau traffig newydd gyda chroesfan twcan dros yr A548 - Adeiladu llwybr beicio/llwybr troed i gysylltu croesfan â Llwybr Arfordir Cymru - Cau’r slipffordd bresennol o’r A548 i’r A5026 - Lleihau’r terfyn cyflymder i 40mya Dywedodd Aelod Cabinet Strydoedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas: “Mae’r gwelliannau hyn wedi bod yn bosibl o ganlyniad i grant gan Lywodraeth Cymru a bydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i breswylwyr, defnyddwyr y ffordd a phobl syn ymweld â Bagillt. Bydd y goleuadau traffig, yr ynysoedd hollti a’r gostyngiad yn y terfyn cyflymder yn gwneud y ffordd yn llawer mwy diogel i bobl sy’n croesi’r gyffordd a bydd y llwybr beicio a cherdded newydd yn cysylltu â Llwybr Arfordir Cymru, sy’n atyniad i breswylwyr ac ymwelwyr Bagillt.”