Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y diweddaraf am Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug

Published: 16/03/2018

Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo dyraniad arian cyfalaf i fwrw ymlaen i ddymchwel Camau 3 a 4 o Neuadd y Sir yn yr Wyddgrug a’r gweithgarwch ehangach i ailddatblygu’r safle. Mae’r Cyngor yn paratoi sawl darn o waith wedi eu cysylltu ag ailddatblygu Campws yr Wyddgrug ynghyd ag adleoli nifer fawr o’r gweithlu i Unity House yn Ewlo. Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton: “Mae sawl cam i’r prosiect a fydd yn gweld staff yn cael eu hadleoli i Unity House, yn Ewlo, ac i ddechrau byddwn yn gweld y gwaith o ddymchwel camau 3 a 4 sydd eisoes yn wag. I ddilyn hyn, bydd rhaglen o waith adfywio manylach ar gyfer y safle cyfan ac, i gyflawni hyn, byddwn yn chwilio am bartner datblygu i’n cynorthwyo i adfywio’r safle ar ôl dymchwel yr adeilad. Mae hwn yn gyfnod cyffrous ac yn brosiect cymhleth ac rydym yn teimlo’n sicr y bydd yn denu’r math cywir o bartneriaid arloesol a llawn gweledigaeth. “Mae Neuadd y Sir yn hen adeilad sydd wedi cyflawni ei ddiben yn effeithiol ers sawl blwyddyn. Serch hynny, mae hefyd yn adeilad costus i’w gynnal ac mae angen i’r Cyngor edrych ar yr holl ddewisiadau sydd ar gael iddo i greu arbedion effeithlonrwydd yn yr hinsawdd ariannol heriol hwn. Rydym wedi bod yn cynnal arolwg o’n hasedau eiddo corfforaethol ers tro ac roeddem bob amser yn mynd i gyrraedd sefyllfa lle byddai ein ffocws a’n pwyslais yn troi tuag at Neuadd y Sir. Mae ein cynigion ar gyfer y safle yn uchelgeisiol ac mae’r gwaith yn gymhleth ond mae’r canlyniadau yn bwydo i mewn i’n strategaeth ariannol tymor canolig ac yn y pen-draw bydd yn cefnogi ac yn diogelu gwasanaethau rheng flaen.”