Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mae Sir y Fflint yn le i’w alw’n gartref

Published: 16/03/2018

Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint groesawu adolygiad positif o gartrefi gofal yn y Sir pan fydd yn cyfarfod yr wythnos nesaf. Yn 2017, cynhaliodd Comisiynydd Pobl Hyn Cymru adolygiad dilynol o’i hadolygiad “Lle i’w Alw’n Gartref?” yn 2014, yr adolygiad mwyaf erioed i gael ei gynnal i ansawdd bywyd a gofal am bobl hyn mewn cartrefi gofal yng Nghymru. Cafodd pob un o 22 awdurdod lleol Cymru, 7 Bwrdd Iechyd Lleol, Llywodraeth Cymru a AGC (Arolygiaeth Gofal Cymru) eu hadolygu a’u dadansoddi yn erbyn eu ‘Gofynion ar gyfer Gweithredu’ mewn 15 maes penodol fel yr amlinellir yn adolygiad 2014. Mae Sir y Fflint yn un o bedwar awdurdod lleol, a’r unig awdurdod yng Ngogledd Cymru, i gael y sgôr uchaf ym mhob un o’r 15 maes. Mae’r adroddiad hefyd yn nodi Sir y Fflint fel enghraifft o arfer arloesol ac arfer orau ar bum achlysur. Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint: “Mae hwn yn adroddiad ardderchog ac yn un y dylem fod yn falch iawn ohono. Oherwydd gwaith caled ac ymroddiad ein gweithlu bendigedig, gall pobl hyn Sir y Fflint fod yn sicr y byddant yn cael y gofal gorau posibl ar adeg pan allent fod yn teimlo’n ddiamddiffyn ac yn ansicr am eu dyfodol. “Fel y mae’r adolygiad yn nodi – mae darparu gofal mewn lleoliad cartref gofal yn ymwneud â mwy na bod yn ddiogel a chwrdd ag anghenion corfforol sylfaenol, mae hefyd yn ymwneud ag ansawdd bywyd.” Gwnaeth y Comisiynydd nodi y gallai Sir y Fflint wneud mwy o waith i wella tystiolaeth o ganlyniadau ac y dylid darparu data mwy ystyrlon a mesuradwy i ddangos ein gwelliannau ymhellach. Rydym wedi symud ymlaen â hyn fel cam gweithredu.