Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Arwyr ym Mharc Gwepra ar gyfer Gwanwyn Glân Cymru

Published: 14/03/2018

Cymerodd Cyngor Sir y Fflint rhan o ddigwyddiad Gwanwyn Glân Cymru eleni yn ddiweddar. Ymgyrch genedlaethol yw hon i annog pobl ar draws Cymru i ddod ynghyd i helpu i lanhau ein Cymru hardd! Mae’r digwyddiad yn rhan o Wanwyn Glân Prydain, ac mae Cadwch Gymru’n Daclus yn awyddus i ysbrydoli pobl Cymru i fynd allan i’r awyr agored, bod yn heini a bod yn falch o lle maent yn byw. Cynhaliwyd digwyddiad glanhau ym Mharc Gwepra, wedii drefnu gan Gyfeillion Parc Gwepra ac wedi ei gefnogi gan Wasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint.