Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cosbi’n llym am adael baw ci

Published: 02/03/2018

Mae Cyngor Sir Y Fflint yn rhoi ei droed i lawr wrth fynd i’r afael â baw ci. Cyflwynwyd Gorchymyn Gwarchod Gofod y Cyhoedd (PSPO) o ran Rheoli Cwn ym mis Hydref y llynedd i helpu i gadwr Sir yn lân. Baw ci yw un o’r problemau mwyaf a ddaw i’r amlwg yn gyson gan drigolion. Mae’r rhan fwyaf o berchnogion cwn yn drigolion cyfrifol, ond mae’r lleiafrif yn ei sbwylio i’r gweddill. Felly, byddwch yn ymwybodol os na fyddwch yn codi baw eich ci, gallech chi wynebu dirwy sylweddol. Fel perchennog ci cyfrifol ac i gydymffurfio â’r PSPO, mae angen i chi: · godi baw eich ci o bob man cyhoeddus yn Sir y Fflint a’i waredu’n gywir; · cario rhywbeth i godi baw y ci (er enghraifft, bagiau) bob amser; · dilyn unrhyw gyfarwyddyd gan swyddog awdurdodedig os gofynnir i chi roi eich ci ar dennyn; · cofiwch na all yr un ci fod ar dir ysgolion, ardaloedd chwarae plant, ardaloedd hamdden ffurfiol nac o fewn ffiniau lleiniau chwaraeon wedi’u marcio; · cadwch eich ci ar dennyn bob amser mewn mynwentydd a gynhelir gan y Cyngor. Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas: “Mae baw ci wedi bod, ac yn parhau i fod yn broblem yn ein cymunedau. Mewn ymateb i bryderon y cyhoedd, rydym yn bwriadu cosbi perchnogion cwn anghyfrifol yn llym drwy roi dirwyon ir rhai syn anwybyddu’r rheolau newydd wrth i ni geisio cadw ein hardaloedd cyhoeddus rhag baw ci. Ers mis Hydref pan gyflwynwyd y gorchymyn, mae swyddogion gorfodi wedi treulio amser yn codi ymwybyddiaeth ar eu patrolau, er mwyn sicrhau bod trigolion yn gwbl ymwybodol cyn i unrhyw ddirwyon gael eu rhoi. Ond bellach bydd swyddogion yn gorfodir gorchymyn ar berchnogion cwn anghyfrifol syn atebol i Rybudd Cosb Benodedig o £75 os na gedwir at y rheolau.