Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Datganiad y Cyngor ar y Gyllideb

Published: 15/02/2018

Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn cyfarfod yr wythnos nesaf i ystyried opsiynau i osod cyllideb gytbwys ar gyfer 2018/19 i’w argymell i’r Cyngor. Drwy gyfuniad o fod yn ddyfeisgar wrth drefnu ein hunain a’n gwasanaethau i sicrhau £79m mewn arbedion dros y 10 mlynedd diwethaf, lleihau ein gofod swyddfa a’n gweithlu a chael cefnogaeth dda gan ein cymunedau o ran croesawu newid a chymryd rhagor o gyfrifoldeb dros ddarparu gwasanaethau dros eu hunain, rydym wedi gallu diogelu ein gwasanaethau rheng flaen hyd yma. Er bod newid sylweddol a thorri costau wedi bod dros gyfres o gyllidebau blynyddol, mae bwlch yn y gyllideb o hyd o tua £6m ar gyfer 2018/19 gydag ychydig o opsiynau ar ôl. Mae’r cwmpas ar gyfer gostyngiadau pellach mewn portffolios gwasanaeth ar gyfer 2018/19 wedi’i ddisbyddu. Mae’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu a’r Cabinet yn derbyn y sefyllfa hon. Ni all y Cyngor wneud llawer mwy ar y cam hwn ac mae’n cael ei hun, fel pob Cyngor arall yng Nghymru a Lloegr, mewn sefyllfa heb ei thebyg o’r blaen, a mwyfwy anodd, o ystyried y rhaglen gyni barhaus sy’n cael ei dilyn gan Lywodraeth y DU. Mae’r tri chais penodol a wnaed i Lywodraeth Cymru am gymorth gyda’r gyllideb, yn unol â phenderfyniad blaenorol y Cyngor, wedi’u gwneud ac maen nhw’n cael eu trafod. Ar wahân i ymyrraeth ariannol gan Lywodraeth Cymru, yr unig opsiynau sydd ar ôl i fantoli’r gyllideb yw incwm Treth y Cyngor a thynnu ar gronfeydd wrth gefn a balansau. Caiff y ddau opsiwn hyn eu trafod yng nghyfarfod yr wythnos nesaf. Mae’r Cyngor yn gosod ei gyllideb mewn tri cham, ac ar y trydydd cam hwn, a’r cam olaf, nid oes gennym opsiwn ond ystyried yn agored y defnydd o gronfeydd wrth gefn a balansau i gau’r bwlch sydd ar ôl yn y gyllideb yn rhannol ac wedyn i osod lefel uwch na’r lefel draddodiadol o Dreth y Cyngor ar gyfer 2019/20 i fantoli’r gyllideb ac i ddarparu unrhyw gymorth ar gyfer y fformiwla cyllido ysgolion. Byddai cynnydd Treth y Cyngor o 6.71% yn codi £4.984m tuag at y bwlch sydd ar ôl yn y gyllideb o £5.752m. Gellir defnyddio cronfeydd wrth gefn a balansau i lefel y gellir ei rheoli dim ond i gefnogi mantoli’r gyllideb. Rydym yn cydnabod yn llawn a rhannu’r sefyllfa risg i’n hysgolion ac rydym yn sylweddoli’n llawn bod ysgolion yn pryderu am effaith setliad arian gwastad posibl i’w cyllidebau dirprwyedig. Rydym wedi bod yn agored iawn gyda phenaethiaid am yr heriau ariannol sy’n wynebu’r Cyngor a’r effaith ddilynol ar gyllid ysgolion a’r risgiau maen eu peri. Rydym yn ceisio canfod datrysiad rhannol o leiaf gydag ychydig iawn o opsiynau ar gael. Gan ystyried sefyllfa gyffredinol y gyllideb, rhaid i’r Cyngor barhau i ganolbwyntio ar osod cyllideb sy’n gyfreithiol gytbwys. Os bydd unrhyw wybodaeth bellach yn dod i law o ran trafodaethau’r Cyngor gyda Llywodraeth Cymru ac a oes unrhyw opsiynau pellach i fantoli’r gyllideb, caiff ei rhannu yng nghyfarfod y Cabinet yr wythnos nesaf.