Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cwsmeriaid Digidol

Published: 15/02/2018

Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gytuno â datblygiad sylweddol i wasanaethau digidol, a fydd yn caniatáu i bobl gael mynediad i wasanaethau’r Cyngor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos – gan helpu gwasanaethau gwrdd â’r galw yn well. Mae’r datblygiad cyffrous yn adeiladu ar ein Strategaeth Gwasanaethau i Gwsmeriaid ac yn gwella ein defnydd o dechnoleg ddigidol. Mae’r cynigion yn yr adroddiad yn cynnwys sefydlu cyfrifon cwsmer unigol ar-lein a phorth talu a fydd yn galluogi cwsmeriaid i brynu ystod o wasanaethau ar-lein a hynny o un pwynt mynediad. Mi fydd yna amrywiaeth o wasanaethau ar gael yn ddigidol, gan gynnwys gwasanaethau tai, refeniw a budd-daliadau, treth y cyngor a chyfleuster sgwrsio. Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol Cyngor Sir y Fflint: Maen rhaid i ddarpariaeth gwasanaeth y Cyngor yn y dyfodol ganolbwyntio ar symleiddior modd y mae cwsmeriaid yn derbyn gwasanaethau. Mantais amlwg hyn yw galluogir rheiny sy’n ei chael hi’n hawdd defnyddio gwasanaethau ar-lein i wneud hynny, a galluogir rheiny sydd angen cyswllt wyneb yn wyneb neu dros y ffôn i ddatrys ymholiadau mwy cymhleth i dderbyn mwy o gefnogaeth gan y staff gwasanaethau i gwsmeriaid. “Dros amser, bydd y dull hwn yn arwain at arbedion sydd wir eu hangen i helpu’r Cyngor gydbwyso ei gyllidebau blynyddol i ddiogelu gwasanaethau lleol. Fodd bynnag, mae hyn yn ymwneud â moderneiddio a gwella darpariaeth gwasanaethau i gwsmeriaid y Cyngor drwy fanteisio ir eithaf ar dechnoleg ddigidol. Cymeradwyodd y Cyngor ei Strategaeth Digidol a’i Strategaeth Gwasanaethau i Gwsmeriaid yn 2017.