Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Egluro newidiadau i gasgliadau gwastraff a gwastraff gardd

Published: 12/02/2018

Mae Cyngor Sir y Fflint yn cyflwyno newidiadau iw wasanaethau casglu gwastraff a gwastraff gardd oherwydd bod angen i’r Cyngor gyrraedd targedau ailgylchu gwastraff Llywodraeth Cymru a rhaid iddo fynd i’r afael â’r heriau mawr i’r gyllideb sy’n cael eu hwynebu gan bob Cyngor, o ystyried y cyfnod parhaus o gyni. 1. Y Gwasanaeth Gwastraff Gardd. Er mwyn bodloni cost y gwasanaeth gwastraff gardd – o 1 Ebrill, bydd tâl o £30 y flwyddyn am y gwasanaeth a fydd yn parhau i weithredu o 1 Mawrth i 30 Tachwedd bob blwyddyn (Ni fydd tâl ychwanegol am y casgliadau a wneir ym mis Mawrth eleni). Os hoffech i ni barhau i gasglu eich bin gwastraff gardd, mae manylion cofrestru ar-lein yn www.siryfflint.gov.uk/gwastraffgardd neu gallwch ein ffonio ar 01352 701234 i gofrestru ar gyfer y gwasanaeth. Os byddai’n well gennych, gallwch fynd â gwastraff gardd i’ch Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref agosaf yn rhad ac am ddim, neu os oes gennych le, gallech ei gompostio adref. Mae gwybodaeth am sut i gompostio ar gael yn www.siryfflint.gov.uk/gwastraffgardd neu drwy fynd i’ch canolfan Cysylltu agosaf. Er mwyn derbyn y deunydd gwastraff gardd, bydd safleoedd Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref yn gweithredu oriau agor yr haf o 1 Ebrill a byddant ar agor o 10am tan 6pm saith diwrnod yr wythnos. Mae’r oriau estynedig hyn dros yr haf yn rhedeg tan 30 Medi 2018. 2. Gorfodi Gwastraff Ochr. Mae llawer o breswylwyr yn ymrwymedig iawn i ailgylchu eu gwastraff ond mae rhai nad ydynt yn ailgylchu ac mae hyn yn effeithio’n ddifrifol ar ein perfformiad ailgylchu. O 1 Mawrth 2018, byddwn yn dechrau ymweld â phreswylwyr syn gadael gwastraff ochr gydau bin du iw hannog i ailgylchu ac i roi gwybod iddynt beth ellir ei ailgylchu a beth na ellir ei ailgylchu. Os yw ein help a’n cyngor yn cael ei anwybyddu a bod pobl yn parhau i adael gwastraff ochr, gallent gael dirwy o £75. Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd a Chludiant Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas: “Mae’r materion hyn wedi’u trafod yn fanwl ac ni fu yr un yn benderfyniad hawdd, roedd rhaid gwneud dewisiadau anodd oherwydd trefn cyni parhaus Llywodraeth y DU. Nid oes rhwymedigaeth gyfreithiol ar y Cyngor i gasglu gwastraff gardd ac mae nifer o Gynghorau eraill eisoes wedi cyflwyno tâl o’r fath. Fodd bynnag, mae angen i ni gyrraedd targedau llym y Llywodraeth o ran ailgylchu gwastraff cartref er mwyn osgoi cael dirwy – arian a allai gael ei wario’n well ar ddarparu gwasanaethau angenrheidiol, statudol, fel addysg ein plant a gofal iechyd cymdeithasol i breswylwyr henoed a diamddiffyn Sir y Fflint. Mae cyngor am beth i’w ailgylchu ar gael ar wefan y Cyngor neu drwy fynd i un o’n canolfannau Cysylltu.”