Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gweddnewid Ysgol Uwchradd Cei Connah

Published: 13/02/2018

Mae’r rhaglen foderneiddio ar gyfer Ysgol Uwchradd Cei Connah wedii rhoi ar waith. Fe ddechreuodd disgyblion or ysgol y gwaith mewn seremoni torri tir swyddogol yn ddiweddar. Daeth cynghorwyr, swyddogion a chynrychiolwyr y contractwr, Kier Construction o Wrecsam, i’r digwyddiad. Mae’r gwaith yn canolbwyntio ar godi adeiladau deulawr newydd, yn lle’r bloc Dylunio a Thechnoleg ar bloc Celf a Thechnoleg Bwyd, a fydd yn cynnwys swyddfa weinyddol, Dylunio a Thechnoleg, Technoleg Bwyd, Celf a Dylunio a lle i ddarpariaeth addysgu ychwanegol, gofod swyddfa, toiledau, lifftiau, grisiau ac ystafell blanhigion. Mae’r gwaith yn rhan o Raglen Addysg ac Ysgolion yr 21ain Ganrif gan Lywodraeth Cymru ac yn dilyn y gwaith a gwblhawyd yng Nghampws Dysgu Treffynnon a Choleg 6ed Dosbarth Glannau Dyfrdwy. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: “Mae angen mawr am y gwaith moderneiddio yn yr ysgol a bydd o safon uchel ac yn darparu cyfleusterau modern o’r radd flaena’ a’r cyfleoedd dysgu gorau i’n plant. Mae’r Cyngor yn dal i ymrwymo i fuddsoddi yn nyfodol ein plant an pobl ifanc. Rydyn ni’n parhau i weithio i ddarparu addysg gynaliadwy o safon uchel in holl ddisgyblion a’n myfyrwyr. Rwy’n edrych ymlaen at weld y gwaith wedi’i gwblhau’n fuan yn 2019.” Dywedodd y Pennaeth, Ann Peers: “Bydd y rhaglen adeiladu wych yman darparu’r cyfleusterau in hysgol allu cynnig addysg effeithiol ar gyfer yr 21ain ganrif pan mae ei angen fwyaf. Mae pawb yn yr ysgol wir yn mwynhau gweld y prosiect, sydd bellach ar waith ac ar amser, yn datblygu o flaen ein llygaid.” Dywedodd John O’Callaghan, rheolwr-gyfarwyddwr Gogledd Prydain Kier Construction: “Rydyn ni’n falch o fod wedi cychwyn ar waith i ddarparu adeilad addysg newydd ar gyfer yr ysgol. Byddwn yn gweithio gydar gadwyn gyflenwi leol i gwblhaur bloc newydd, a fydd yn darparu cyfleusterau or safon uchaf i helpur myfyrwyr i gyflawni cymaint ag y gallant. Mae gennym ni lawr o brofiad o weithio ar brosiectau addysg ar draws y wlad a byddwn yn defnyddio ein harbenigedd i gwblhau’r prosiect hwn i safon uchel. Dywedodd Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Cymru, Kirsty Williams: “Mae bod ag amgylchedd braf i ddysgu ynddo, gyda’r cyfleusterau iawn a digon o le, yn hanfodol i sicrhau bod ein plant yn cael yr addysg orau bosib’. Rwy’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu darparu bron i £6 miliwn tuag at gyfanswm y gost o ychydig dros £13 miliwn i sicrhau bod Ysgol Uwchradd Cei Connah yn gwneud hynny. Fe fydd y prosiect hwn yn golygu newid go iawn ir myfyrwyr au hathrawon. “Ein bwriad cenedlaethol ydi codi safonau, lleihau’r bwlch cyflawni a darparu system addysg sy’n ennyn balchder a hyder yn genedlaethol. Mae ein Rhaglen Addysg ac Ysgolion y 21ain Ganrif yn chwarae rhan allweddol yn hyn a dyma’r buddsoddiad mwyaf yn ein hysgolion a’n colegau ers y 1960au.”