Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn chwifio’r faner

Published: 01/02/2018

Mae Cyngor Sir y Fflint yn codir faner enfys y tu allan i Neuadd y Sir unwaith eto drwyr mis hwn i gefnogi mis hanes pobl lesbiaid, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (LGBT) yn ystod mis Chwefror. Maer digwyddiad blynyddol hwn yn rhoi cyfle i bobl ddysgu mwy am hanes a chyflawniadau pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol ar mudiad hawliau pobl hoyw a hawliau sifil. Hefyd mae’n amser i gofio’r gwahaniaethu y mae llawer wedi ei wynebu ar daith sydd wedi ei gwneud tuag at gydraddoldeb i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol. Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau Cyngor Sir y Fflint a Phencampwr Cydraddoldeb i’r Cyngor: “Mae cefnogi mis hanes pobl lesbiaid, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol yn bwysig i’r Cyngor. Mae chwifior faner drwy gydol mis Chwefror yn anfon neges glir ein bod wedi ymrwymo i gydraddoldeb i bawb, o fewn y Cyngor an cymuned ehangach”. Y thema eleni yw ‘Daearyddiaeth: Mapio’r Byd’, sy’n cydnabod cydraddoldeb pobl lesbiaid, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol yn fyd-eang, yn arbennig nawr fod pobl yn Awstralia a hyd at 16 yn fwy o wledydd canol a de America yn gallu mwynhau priodasau o’r un rhyw. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’w gwefan: http://lgbthistorymonth.org.uk/.