Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngerdd Dydd Gwyl Dewi y Cadeirydd

Published: 12/01/2018

Bydd Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint yn cynnal Cyngerdd Elusen Dydd Gwyl Dewi yn Eglwys Santes Fair, yr Wyddgrug dydd Iau, 1 Mawrth. Yn serennu yn y cyngerdd fydd Richard ac Adam o raglen Britain’s Got Talent. Bydd Côr Meibion Fflint, artist unigol Elisa Edwards a Chanwyr Sioned Ellis yn perfformio hefyd. Bydd y drysau yn agor am 7pm a’r sioe yn dechrau am 7.30pm. Gallwch brynu eich tocynnau, sydd yn £15 yr un, drwy gysylltu â’r Cadeirydd, y Cynghorydd Brian Lloyd yn uniongyrchol ar 07734 579898 neu ffonio ei swyddfa ar 01352 702151, neu anfon e-bost at chairman.assistant@flintshire.gov.uk. Mae tocynnau ar gael hefyd yn Swyddfeydd Cyngor Tref yr Wyddgrug, Vaughan Davies, Bargain Booze a Chanolfan Gymunedol Daniel Owen yn yr Wyddgrug. Bydd yr holl elw yn mynd i elusennau’r Cadeirydd sef Hosbis Claire House, Cymorth Canser Macmillan a Barnardos Cymru. Edrychwn ymlaen at eich gweld mewn cyngerdd sydd yn argoeli i fod yn noson wych o adloniant.