Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adroddiad Cyllideb Ysgolion

Published: 15/01/2018

Bydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint yn ystyried dichonolrwydd setliad ‘arian gwastad’ i ysgolion. Mae setliad ‘arian gwastad’ yn golygu y bydd ysgolion yn derbyn yr un lefel o gyllid ag y llynedd heb unrhyw gynnydd i gynorthwyo ag ariannu costau megis codiad cyflog i staff neu gostau cynyddol ynni, nwyddau a gwasanaethau. Er bod y gyllideb addysgol ganolog o fewn y Cyngor wedi gostwng o 30% dros y tair blynedd diwethaf, mewn ymateb i galedi parhaus gwasanaethau’r llywodraeth leol, nid yw cyllidebau dirprwyedig i ysgolion wedi bod yn destun mesurau effeithlonrwydd sylweddol ac maent wedi cael eu gwarchod i raddau helaeth. Mae’r bwlch tybiedig yn y Gyllideb, i’w ganfod gan y Cyngor ar gyfer 2018/19, dros £13m. Yn ystod Camau 1 a 2y broses gosod Cyllideb, mae’r Cyngor wedi nodi cynigion er mwyn symud yn agosach at gydbwyso ei gyllideb. Mae hyn wedi bod yn her fawr i’r Cyngor ac mae Cam 3 y broses eto i ddod. Nid oes lle yn yr ystyriaethau cyllideb i gynnig cynnydd i ysgolion o ran eu cyllidebau. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r Cyngor wedi gallu bodloni’r argymhellion Gweinidogol a chynnig cynnydd bychan i gyllidebau dirprwyedig ysgolion i’w cynorthwyo â phwysau chwyddiannol cynyddol a rhoi rhywfaint o amddiffyniad i wasanaethau addysg rheng flaen. Fodd bynnag, oherwydd y sefyllfa ariannol bresennol, mae’n rhaid i aelodau etholedig ystyried yr holl opsiynau sy’n weddill i geisio bodloni’r gofyniad cyfreithiol i osod cyllideb gytbwys. Mae’r Cyngor ac ein cymuned addysgol yn parhau i apelio at Weinidogion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ystyried effaith y caledi parhaus ar ddarpariaeth gwasanaethau addysg lleol a chydnabod y costau gweithlu sylweddol sydd wedi’u creu oherwydd newidiadau i bensiynau ac Yswiriant Gwladol. Mae’r Cyngor yn parhau i hawlio y dylid ariannu unrhyw godiad cyflog yn y dyfodol yn llawn yn ogystal â setliad ‘arian gwastad’ ac y dylid derbyn sicrwydd y bydd unrhyw ymrwymiad polisi neu ymrwymiad deddfwriaethol newydd sydd wedi’i greu gan Lywodraeth Cymru neur Llywodraeth Ganolog yn cael ei ariannu’n llawn. Gyda chanran uchel o gyllideb unrhyw ysgol ym mynd tuag at gostau staffio, nid yw’n syndod bod cynnydd i’w weld o ran diswyddiadau mewn ysgolion. Er bod hyn yn arbed arian, mae hefyd yn creu risgiau posibl, er enghraifft gall hyn effeithio’n negyddol ar ystod, ansawdd ac ehangder y cwricwlwm sy’n cael ei gynnig, gall y lefelau o gefnogaeth academaidd a’r ymyrraeth fugeiliol ar gyfer disgyblion diamddiffyn leihau ac o bosib y bydd cynnydd o ran meintiau’r dosbarthiadau. Er gwaetha’r ffaith i ysgolion weithio’n galed i sicrhau eu bod arbed cymaint o arian â phosibl dros y tair blynedd diwethaf, mae 7 o 11 ysgol uwchradd yn Sir y Fflint mewn sefyllfa o ddiffyg cyllidebol a disgwylir i hyn gynyddu. Mae Penaethiaid eisoes yn adrodd am lefelau uchel o straen wrth i ddylanwad y gostyngiadau cyllidebol ddechrau effeithio arnynt. Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint: “Mae’r Cyngor yn wynebu heriau ariannol mawr ac mae’n rhaid iddo wneud penderfyniadau anodd iawn ynglyn â sut i ddyrannu ei gyllid cyfyngedig a sut i ganfod rhagor o arbedion i gyflawni cyllideb sy’n gytbwys yn gyfreithiol. “Mae gosod cyllideb ‘arian gwastad’ ar gyfer ysgolion yn gwneud cyfraniad sylweddol at gau’r bwlch yn y gyllideb ond gall hyn beryglu cynaliadwyedd gwasanaethau addysg o safon yn Sir y Fflint. Bydd penderfyniad o’r fath yn effeithio ar yr holl ysgolion ond bydd yn enwedig yn heriol i’r rheiny sydd â sefyllfa gyllidebol sydd yn llai gwydn nag eraill. “Mae ysgolion wedi bod yn rhagweithiol wrth addasu i ostyngiad y lefelau cyllid, wrth ganolbwyntio ar gynnal eu darpariaeth o gwricwlwm o safon a gwella canlyniadau dysgwyr. Mae perfformiad y Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3 yn bodloni neu’n well na’r lefelau disgwyliedig ac mae Cyfnod Allweddol 4, er ei fod yn parhau i fod yn is na’r lefelau disgwyliedig, wedi gwella’n aruthrol yn 2017, er gwaethaf yr heriau ariannol. “Mae rhai lliniariadau i ddiogelu ysgolion rhag effeithiau setliad ‘arian gwastad’ yn dilyn blynyddoedd heriol o safbwynt cyllid addysgol. Unai y bydd rhaid newid y polisi cenedlaethol ar galedi neu bydd angen i ysgolion fynd yn bellach fyth wrth wneud arbedion lleol.”