Alert Section

Teledu Cylch Cyfyng (TCC)


Mae Sir y Fflint wedi buddsoddi llawer mewn teledu cylch cyfyng a gellir mesur ei lwyddiant yn Sir y Fflint trwy edrych ar y cynnydd nodedig mewn cyfraddau canfod digwyddiadau.  Hefyd, mae ymchwil lleol i drosedd ac anhrefn yn dangos fod TCC wedi cyfrannu at leihau ofn pobl o drosedd a gwelliant yng nghanfyddiad pobl o ddiogelwch yn yr ardaloedd lle mae camerâu wedi’u gosod.  Mae gwybodaeth Heddlu Gogledd Cymru yn dangos fod cyflwyno TCC yn Sir y Fflint wedi arwain at ostyngiad sylweddol mewn achosion o drosedd ac anhrefn. 

Mae arolygon barn y cyhoedd yn dangos fod llawer o gefnogaeth yn cael ei roi i ddefnyddio TCC mewn trefi a chymunedau.  Mae canran uchel o bobl wedi dangos eu bod yn dymuno cael camerâu yn eu cymunedau.

Mae system TCC Sir y Fflint yn defnyddio 119 o gamerâu lliw sy’n gallu tremio, gogwyddo a chwyddo lluniau.  Maent wedi’u gosod ar adeiladau a cholofnau ledled y sir ac maent yn cael eu monitro bob awr o’r dydd.  Mae’r recordwyr fideo digidol yn darparu delweddau o ansawdd uchel sy’n cynorthwyo’r heddlu i adnabod troseddwyr.  Cedwir tystiolaeth yn unol ag arweiniad y Swyddfa Gartref.

Caiff recordiadau digidol eu rheoli’n llym yn unol â’r Cod Ymarfer TCC.

Trwy weithio ar y cyd â Heddlu Gogledd Cymru a chael cysylltiad uniongyrchol â’u Hystafell Reoli ym Mhencadlys yr Heddlu, gellir rhoi gwybod i’r heddlu am unrhyw droseddau a ganfyddir yn ddi-oed.  Mae hyn yn eu helpu i ymateb yn gyflym i ddigwyddiadau sydd, yn ei dro, yn arwain at gynyddu’r tebygolrwydd o ddal y troseddwyr.

Mae TCC yn offeryn allweddol sy’n cynorthwyo Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir y Fflint i gyrraedd ei nod o sicrhau gostyngiadau cynaliadwy mewn troseddau ac ofn pobl o drosedd yn eu cymunedau lleol.

Os ydych yn gweld trosedd neu os ydych wedi bod yn ddioddefwr mewn trosedd, rhowch wybod i’r heddlu.

Rheoli Camerâu

Rydym yn defnyddio camerâu yn Sir y Fflint i helpu…

  • I wneud Sir y Fflint yn le diogel a glân i fyw, i weithio ac i ymweld ag o.
  • Gostwng achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol, niwsans, camddefnyddio cyffuriau ac alcohol a rhoi sicrwydd i’r cyhoedd.
  • Sicrhau bod troseddwyr a phobl sy’n ymddwyn yn wrthgymdeithasol ac yn achosi anrhefn yn cael eu harestio a’u herlyn.
  • Cael tystiolaeth o droseddau amgylcheddol megis graffiti, fandaliaeth, taflu sbwriel a thipio anghyfreithlon.
  • Darparu cymorth i reoli traffig a sicrhau bod traffig yn llifo’n rhwydd ac yn ddiogel trwy rwydwaith ffyrdd y Sir.
  • Rhoi cymorth ac arweiniad mewn achos o argyfwng mawr yn y Sir.

Canllawoau a Ffurflen TCC

Y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth - Cyngor