Alert Section

Gorfodaeth Gwastraff Ochr y Ffordd


Bydd camau gorfodi ar gyfer gwastraff ochr y ffordd yn ailddechrau yn Sir y Fflint ym mis Medi 2021 

Dechreuodd gorfodaeth ym mis Mawrth 2018 ond cafodd ei atal ym mis Mawrth 2020 oherwydd y pandemig. Fodd bynnag, yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, bu cynnydd sylweddol o ran gwastraff ochr y ffordd ar draws y Sir, nad yw’n gynaliadwy.
 
Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau llym, y mae’n rhaid eu cyrraedd, ar gyfer pob awdurdod lleol er mwyn lleihau gwastraff, ac ailgylchu ac ailddefnyddio mwy o ddeunyddiau.

Yn Sir y Fflint, nid oes cyfyngiad ar faint o ddeunydd ailgylchu caiff preswylwyr eu rhoi allan i’w casglu, neu fynd â nhw i un o’n canolfannau Ailgylchu.

I gael rhagor o wybodaeth am yr uchod ac i weld dolenni, gweler y Cwestiynau Cyffredin isod: 

 

Beth yw gwastraff ar yr ochr?

Bagiau neu eitemau ychwanegol a gaiff eu rhoi allan i’w casglu nad ydynt wedi cael eu rhoi yn y cynhwysyddion cywir a ddarperir gan yr awdurdod yw gwastraff ar yr ochr. Ystyrir bod bin sy’n gorlenwi yn sgil sachau wedi’u pentyrru hefyd yn wastraff ar yr ochr. 
         
Bydd criwiau casglu’n casglu sbwriel sy'n cael ei gyflwyno ar ymyl y palmant mewn bin ar olwynion wedi cau yn unig. Ni fydd bagiau neu eitemau ychwanegol sydd wrth ochr y bin ar olwynion, neu finiau ar olwynion sydd wedi’u gorlenwi a bod y caead methu cau’n iawn, yn cael eu casglu.  

Pam eich bod chi’n bod yn llym ar wastraff ar yr ochr?

Gall y rhan fwyaf o wastraff sy'n cael ei daflu o’r cartref gael ei roi yn eich casgliad ailgylchu wythnosol.  Yn Sir y Fflint, rydym wedi gwneud cynnydd gwych i gyflawni targedau ailgylchu Cenedlaethol, fodd bynnag, mae gostyngiad wedi bod yn y 2 flynedd diwethaf ac yn anffodus, rydym yn anfon mwy o wastraff i gael ei waredu. 

Rydym wedi cyflawni targed Llywodraeth Cymru i ailgylchu 70% o’r deunydd yr ydym yn ei gynhyrchu. Er mwyn cyflawni hyn, mae’n rhaid i bawb reoli’r deunyddiau y maent yn eu cynhyrchu yn eu cartref a lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu lle bo modd. 

Dim ond eitemau na ellir eu hailgylchu y dylid eu rhoi yn y bin du.  

Mae gennym ni ddata ar beth mae preswylwyr yn ei gynnwys yn y biniau ar olwynion ac ar gyfartaledd, mae llawer o ddeunydd ailgylchadwy'n dal i gael ei daflu fel gwastraff.  Mae angen i ni ddargyfeirio’r deunydd ailgylchadwy o'r bin i mewn i'ch casgliadau ailgylchu wythnosol. I helpu i annog hyn, mae’r Cyngor wedi cyflwyno cyfyngiad ar faint o wastraff y gallwch ei gyflwyno i gael ei gasglu.  

Pam wnaethoch chi atal gorfodaeth?  

O ganlyniad i’r pandemig COVID-19, mae gorfodaeth gwastraff ar yr ochr wedi cael ei atal ers mis Mawrth 2020. Gwnaethpwyd hyn yn sgil peryglon iechyd a diogelwch i’n tîm gorfodaeth, a fyddai’n gorfod archwilio’r gwastraff mewn bagiau du i ddod o hyd i dystiolaeth er mwyn nodi o ble mae’r gwastraff yn dod.   Yn ogystal â hynny, gan fod y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref wedi cau am gyfnod, nid oedd modd i drigolion waredu eitemau mwy na gwneud cais am ragor o gynwysyddion ailgylchu i ymdrin â’u gwastraff yn gyfrifol. 

Sut y gallaf leihau fy ngwastraff? 

• Ailddefnyddio rhai eitemau, fel potiau gwydr, poteli a thuniau bisgedi
• Compostio gartref
• Trwsio eitemau
• Lleihau gwastraff drwy brynu nwyddau sydd â llai o ddeunydd pecynnu
• Defnyddio ein cynllun casglu deunydd ailgylchadwy wrth ymyl y ffordd a chasglu gwastraff bwyd wythnosol. 
• Defnyddio Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref.

Ewch i https://walesrecycles.org.uk/reduce/reduce-your-waste am gyngor ar sut leihau eich gwastraff.

Sut y gallaf gael mwy o gynwysyddion ailgylchu? 

Nid oes cyfyngiad ar faint o ailgylchu y gallwch chi ei gyflwyno ar gyfer eich casgliad ailgylchu wythnosol – os oes arnoch chi angen mwy o gynwysyddion, gallwch wneud cais am rai ar-lein neu ffonio 01352 701234

Gellir casglu’r rhain mewn Canolfannau Cyswllt neu Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref gan ddefnyddio’r cod a ddarperir. 

Sicrhewch fod bocsys cardbord wedi cael eu gwasgu a’u gosod mewn sachau. Dylid mynd ag unrhyw focsys dros 1 metr sgwâr (maint monitor) i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref i gael eu hailgylchu. Dylid gwaredu unrhyw bolystyren a phlastig. 

Rydym yn cynnig bagiau plastig ar gyfer Batris cartref bach, ond gellir eu rhoi nhw mewn bagiau brechdanau neu botiau wedi’u selio i gael eu casglu. Dylid mynd â batris mwy i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref. 

Beth fydd yn digwydd os ydw i'n rhoi gwastraff ar yr ochr i'w gasglu?  

Bydd y Cyngor yn monitro’r casgliadau ac yn rhoi gwybod i drigolion sut y gallant ailgylchu mwy a lleihau faint o wastraff sy’n cael ei gyflwyno i gael gwared ag o.  Os daw hi i’r pen a bod trigolion yn rhoi gormod o wastraff allan yn rheolaidd ac heb wrando ar gyngor am ailgylchu, gall y Cyngor gymryd camau gorfodi.  

Cam un (Anffurfiol): Cyflwyno llythyr rhybuddio                                     
Y cam cyntaf yw cyflwyno llythyr o gyngor a phamffled ar sut i leihau gwastraff a beth y gellir ei ailgylchu. Bydd sticer hysbysu hefyd yn cael ei roi ar y bin. Bydd y criw yn derbyn y gwastraff ar yr ochr ar yr achlysur hwn.  

Cam dau (Ffurfiol):  Cyflwyno Rhybudd Adran 46 
Bydd rhybudd ffurfiol o fwriad i gymryd camau yn cael ei gyflwyno i’r eiddo, gelwir y rhybudd hwn yn Rhybudd Adran 46.  Ar y cam hwn, bydd swyddog gorfodi’n helpu i egluro’r gwasanaeth ac yn cynnig cyngor. Fodd bynnag, bydd y cam hwn yn cael ei gofnodi a’i fonitro.                                                                                                                         
Ni fydd y criw yn derbyn y gwastraff ar yr ochr ar yr achlysur hwn, byddant yn gadael y gwastraff i’r preswylydd eu trefnu i’r cynwysyddion ailgylchu a ddarperir a’u gwaredu yn barod ar gyfer y casgliad nesaf. 

Cam tri (Ffurfiol):  Cyflwyno Rhybudd Cosb Benodedig                           
Bydd Rhybudd Cosb Benodedig yn cael ei gyflwyno os nad yw’r preswylydd yn newid eu hymddygiad a’u bod yn parhau i gyflwyno gwastraff ar yr ochr yn dilyn cam un a dau. Bydd gan y preswylydd 28 diwrnod i dalu’r Rhybudd Cosb Benodedig o £75. Os na fydd y preswylydd yn talu’r ffi hwn, fe allai arwain at erlyniad.  Bydd unrhyw wastraff ychwanegol yn cael ei adael i’r preswylydd ymdrin â hwy yn briodol. Nodwch os gwelwch yn dda: ni fyddwn yn dychwelyd i gasglu gwastraff ar yr ochr sydd wedi’i nodi fel casgliad a gollwyd yn dilyn Cam 2 a 3. Bydd cyfeiriadau’n cael eu cofnodi a’u monitro. 

Beth allaf ei wneud gyda Gwastraff Dros Ben?  

Trefnwch eich deunyddiau i’r cynwysyddion ailgylchu dynodedig a ddarperir gan y Cyngor. 

Ystyriwch Gasgliad Gwastraff Swmpus

Ewch â’ch gwastraff i’r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref agosaf gan sicrhau eich bod wedi eu trefnu a’u rhannu yn barod ar gyfer eich ymweliad nesaf a’u bod yn cael eu rhoi yn y cynwysyddion cywir ar y safle.      

Byddwch yn ystyriol o’ch cyfrifoldeb dyletswydd gofal wrth drefnu gwastraff. Os ydych yn talu i rywun waredu eich gwastraff ar eich rhan, defnyddiwch ddarparwr sgip neu gludwr gwastraff cofrestredig priodol; rydych yn dal i fod yn atebol am gam gorfodi os daw i’r amlwg bod eich gwastraff wedi cael ei dipio’n anghyfreithlon. 

A ydych chi’n cynnig unrhyw help i gartrefi sydd â theulu mawr?  

Os ydych chi’n teimlo nad yw maint eich bin yn ddigon i anghenion eich teulu, efallai y byddwch yn gymwys i gael bin mwy.  180 litr yw maint bin gwastraff du sylfaenol, ond gall teuluoedd mwy (6 neu fwy yn y cartref) wneud cais am y bin mwy sy’n dal 240 litr, a rhoi eu bod yn ailgylchu cymaint â phosib’.