Alert Section

Cynllun Cewynnau Go Iawn


Ar gyfartaledd, bydd babi yn defnyddio tua 5,000 o gewynnau yn ystod eu blynyddoedd cynnar.

Yng Nghymru yn unig, teflir tua 200 miliwn o gewynnau bob blwyddyn, ac os ydynt yn mynd i safleoedd tirlenwi, ni fyddant yn dechrau dadelfennu am gannoedd o flynyddoedd.  Nid yw Sir y Fflint yn anfon gwastraff cartref i safleoedd tirlenwi bellach, felly mae cewynnau sy’n cael eu cynnwys gyda'r gwastraff sachau duon yn mynd i Barc Adfer yng Nglannau Dyfrdwy lle defnyddir gwastraff i gynhyrchu ynni. 

Mae cewynnau tafladwy yn ddrud ac ni ellir eu hailddefnyddio.  Fodd bynnag, mae ychydig o gwmnïau erbyn hyn sy’n gallu trin ac ailgylchu cewynnau tafladwy yn ffibr y gellir ei ailddefnyddio.  Yn y dyfodol agos bydd cewynnau’n cael eu hailgylchu wrth i ragor o gwmnïau gael eu sefydlu.

Mae Sir y Fflint yn annog trigolion i ddefnyddio cewynnau “go iawn” y gellir eu hailddefnyddio er mwyn arbed arian a helpu’r amgylchedd gan fod ailddefnyddio bob amser yn ddewis gwell. 

  • Mae clytiau modern yn hawdd eu defnyddioac yn dod mewn gwahanol siâp a steil hefo Velcro a phoppers i'w cau.  Dim mwy oblygu a defnyddio pinnau!
  • Maent yn gyfforddus a lliwgar!
  • Gallant arbed arian!  Gellir eu defnyddio i’rail neu i’r trydydd plentyn
  • Maent yn arbed lle yn eich cist olwyn.  Dimmwy o glytiau papur yn llenwi'r biniau, allai o dripiau lori i’r safle tirlenwi
  • Mae golchi clytiau yn hawdd.  Dim angenberwi na mwydo.  Dim ond golchi ar wres 60 gradd.  Gall gwasanaeth golchi clytiaugasglu clytiau budr a dod a rhai glân atddrws eich cartref.

Sut all y cyngor helpu?
Os ydych chi’n byw yn Sir Ddinbych neu Sir y Fflint ac mae eich plentyn rhwng 1 a 18 mis oed, fe allech fod â hawl i dalebau sy’n werth hyd at £75 i’w defnyddio mewn rhandaliad ar gyfer prynu clytiau go iawn neu Wasanaeth Londri Clytiau Go Iawn.
 
Sut allaf i ymgeisio?

Bydd angen i chi lenwi ffurflen gais a darparu copi o’ch tystysgrif geni yn ogystal â dau fil gwasanaeth diweddar neu hysbysiad o dreth cyngor. Rydyn ni’n awr yn derbyn y MAT B1 yn lle tystysgrif geni gan rieni sy’n dymuno ymgeisio am dalebau cyn geni’r babi.

Gallwch wneud cais ar-lein drwy wefan Cyngor Sir Ddinbych yma:

Gwneud cais am daleb clytiau


Ym mhle y gallaf i ddefnyddio’r talebau?
Byddwch yn derbyn talebau sy’n werth £25 yr un, i’w defnyddio pan fydd eich babi’n 0-3 mis oed, 4-9 mis a 10-18 mis oed. 

Gallwch ddod o hyd i lawer o gwmnïau sy’n darparu gwasanaethau clytiau cynaliadwy drwy chwilio ar y we. Fel arfer mae eu gwefannau yn nodi a ydynt yn derbyn talebau Cyngor ai peidio.