Alert Section

Na i'r bin, ia i ailddefnyddio!


Repair + Reuse Banner


Canolfan Atgyweirio ac Ailddefnyddio Refurbs Bwcle, Ffordd Brunswick, Bwcle, CH7 2EF 

Mae’r Ganolfan Atgyweirio ac Ailddefnyddio yn trefnu arddangosiadau a gweithdai atgyweirio syml er mwyn i chi roi cynnig ar brosiectau tebyg yn eich cartref. Mae amserlen ein harddangosiadau a gweithdai ar gael, felly gallwch archebu eich lle i ddysgu sut i drwsio eitemau.

Mae’r ganolfan hefyd yn gartref i Caffi Cyfle, cafi hamddenol sy’n cynnig teisennau cartref a brechdanau gan gynhyrchwyr lleol.

Oriau Agor

Dydd Llun – Dydd Gwener 9.00am – 4pm
Dydd Sadwrn 9am – 3pm


Gweithdai Atgyweirio yn ôl ar gyfer 2023

Mae’r Ganolfan Trwsio ac Ailddefnyddio yn Bwcle yn cynnal gweithdai uwchgylchu a sesiynau trwsio misol.

https://www.groundworknorthwales.org.uk/refurbs/latest-news/repair-workshops-back-for-2023/ 

https://www.groundworknorthwales.org.uk/refurbs/projects/upcycling-workshops-and-repair-sessions/ 


Oergell Gymunedol

Mae Refurbs yn y Fflint yn lansio rhaglen ‘Oergell Gymunedol’ newydd fel rhan o ymgais gynyddol i fynd i’r afael â gwastraff bwyd.

https://www.groundworknorthwales.org.uk/refurbs/projects/community-fridge/ 


Byddwn yn cynnig amryw o weithdai coginio

Diolch i nawdd gan Hubbub ac mewn cydweithrediad â’r Oergell Gymunedol yn Refurbs, Y Fflint, byddwn yn cynnig amryw o weithdai coginio

https://www.groundworknorthwales.org.uk/refurbs/projects/cook-and-eat/

Refurbs Y Fflint, 1-3, Stad Ddiwydiannol Parc Aber, Ffordd Aber, Y Fflint, Sir y Fflint, CH6 5EX

Mae gan Refurbs Y Fflint dair ystafell arddangos yn llawn dodrefn a theclynnau cartref fforddiadwy o ansawdd.

Ailddefnyddio yw defnyddio rhywbeth unwaith eto ar gyfer ei bwrpas gwreiddiol neu ar gyfer pwrpas gwahanol drwy ailddefnyddio creadigol neu ail-bwrpasu. 

Dyma’r opsiwn gorau cyn ailgylchu'r eitem.  

Mae ailddefnyddio yn wahanol i Ailgylchu. Er mwyn Ailgylchu, mae’r cynnyrch yn mynd drwy broses ddiwydiannol i newid ei ffurf. 

Ceisiwch osgoi defnyddio eitemau untro drwy brynu eitemau y gellir eu hailddefnyddio, gan arbed arian a lleihau effaith amgylcheddol hirdymor nwyddau untro. Rhowch gynnig ar y canlynol i weld y gwahaniaeth y gallwch chi ei wneud. 

  • Defnyddiwch boteli diodydd y gellir eu hail-lenwi 
  • Defnyddiwch rasel safonol, yn hytrach na rasel untro
  • Prynwch fagiau am fywyd

Esiamplau o ailddefnyddio yn Sir y Fflint:-

Clytiau Ailddefnydd 

Os yw eich plentyn rhwng 0 a 18 mis oed, gallwch fod yn gymwys i dalebau gwerth hyd at £75 tuag at brynu clytiau Cotwm neu Wasanaeth Golchi Clytiau Cotwm.  

Gan fod y babi arferol yn defnyddio tua 5,000 o glytiau o’u geni tan iddynt ddysgu defnyddio’r toiled, mae Clytiau Ailddefnydd yn cynnig arbedion sylweddol.

Rhoi a phrynu dodrefn a nwyddau 

Mae nifer o gyrff elusennol yn derbyn eitemau diangen, megis dillad, teganau, dodrefn, eitemau trydanol, a llawer mwy, i'w gwerthu ymlaen drwy ganolfannau dosbarthu neu siopau manwerthu.  

I chwilio am eich siop elusen leol, ymwelwch â:

https://www.charityretail.org.uk/find-a-charity-shop/

Mae Refurbs yn elusen dim er elw sydd wedi’i leoli yn y Fflint. Cefnogwch nhw drwy gyfrannu unrhyw eitemau diangen, neu drwy ymweld â’n hystafelloedd arddangos i brynu. Ewch i:

https://www.groundworknorthwales.org.uk/refurbs/

Beiciau 

Cyfrannwch feiciau diangen oedolion neu blant er mwyn eu:

https://www.groundworknorthwales.org.uk/refurbs/