Alert Section

Taith Hamdden Sir y Fflint


Mae cymaint i'w archwilio fel ein bod wedi dyfeisio llwybr car arbennig i'ch helpu (7 MB).

Mae'r Daith Hamdden yn 83 o filltiroedd o gefn gwlad, arfordir, trefi marchnad ac atyniadau hanesyddol wedi'u rhannu'n naw adran hylaw. Mae'r daith yn mynd â chi i bentrefi hyfryd, trefi marchnad traddodiadol, cestyll canoloesol a rhai o'r golygfeydd mwyaf trawiadol yng Ngogledd Cymru.

Ni fyddwch yn gallu gwneud y cyfan mewn diwrnod. Ond cewch hwyl yn ceisio gwneud hynny. Gallwch neidio allan ac archwilio'r hyn sydd i'w weld oddi ar y llwybr ar hyd y ffordd.

Mae arwyddion da ar y llwybr o'r dechrau i'r diwedd. Cadwch lygad allan am arwyddion ffyrdd fel hyn, mae rhai pobl yn ei alw'n 'dilyn y ddraig'.