Alert Section

Cadwraeth


Cadwraeth yn Archifdy Sir y Fflint

Yn y stiwdio gadwraeth, ceir yr holl gyfleusterau sydd eu hangen i drin unrhyw fath o ddogfennau archif yn yr ystorfa. 
Y Swyddog Cadwraeth sy’n gyfrifol am ddiogelu’n casgliadau unigryw ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol, ac am ddefnyddio dulliau cadwraeth ymarferol o drin a diogelu dogfennau bregus i sicrhau eu bod ar gael i’w gweld. Caiff amrywiaeth eang o ddeunyddiau eu trin, a chânt eu diogelu a’u trin yn ôl safonau BS2971 Rhannau 1 a 2. 
Nod gwaith cadwraeth yn yr archifdy yw sicrhau bod yr eitem yn newid cyn lleied â phosibl, ac ymyrryd cyn lleied â phosibl â hi. Defnyddir y dulliau a’r deunyddiau mwyaf addas bob amser.

Canllawiau:

Camllawiau Cadwraeth - Copïo
Canllawiadau Trin
Polisi Cadwraeth, 2014 (pdf.doc 98.7KB ffenestr newydd) 
Gofalu am eich trysorau yn y cartref

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech gyngor ynghylch cadwraeth, cysylltwch â’r Swyddog Cadwraeth yn Archifdy Sir y Fflint:  Ffôn. 01244 532 414 neu e-bost: archives@flintshire.gov.uk