Skip to content
Mwy o bobol, mwy o feddyliau a cyrff gweithredol, mwy aml
Cyhoeddiadau [2]
  • DYDD LLUN GŴYL Y BANC 6 MAI 2024: Dim ond Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy (8:30am-4:00pm) a Phafiliwn Jade Jones y Fflint (8:00am-3:00pm) sydd AR AGOR. Bydd pob un canolfan hamdden a llyfrgell AR GAU.
  • Mae’r Amgueddfa Yr Wyddgrug nawr ar gau ar gyfer gwaith ailddatblygu. Cysylltwch â heritage@aura.wales os oes gennych unrhyw ymholiadau.

Amser i Archwilio

Darganfyddwch fwy am hanes lleol eich ardal yn un o’n hamgueddfeydd.

Gwaith Brics Bwcle (delwedd)

EIN HARDDENGOSFEYDD AMGUEDDFA

Bwcle

Lleolir ar lawr uchaf Llyfrgell Bwcle, mae ein hamgueddfa yn adrodd stori Bwcle fel y brif ganolfan cynhyrchu brics a chrochenwaith o’r oesoedd canol i’r 20fed Ganrif.

Gall ymwelwyr weld eitemau o gasgliad Martin Harrison o grochenwaith Bwcle, ynghyd â deunydd hanes cymdeithasol ac archaeoleg lleol.

Dysgwch am Jiwbilî flynyddol Bwcle a’r Clwb Nos Tivoli adnabyddus.

Mynediad AM DDIM.

Yr Wyddgrug

Lleolir ar lawr uchaf Llyfrgell Yr Wyddgrug, mae’r amgueddfa yn olrhain hanes anhygoel Yr Wyddgrug, ei bobl a’i straeon.

Mae yna drysorau o’r Oes Efydd i’w gweld gan gynnwys replica o Fantell enwog Yr Wyddgrug. Mae’r Fantell wreiddiol ar gyrion y dref nawr yn yr Amgueddfa Brydeinig.

Gallwch gael blas o’r Wyddgrug Fictoraidd drwy lygaid y nofelydd Cymraeg, Daniel Owen, a welir mewn ail-liniad o’i siop teiliwr.

Mynediad AM DDIM.

Dyffryn Maes Glas

Yn ymestyn dros 70 erw o goetir, gallwch archwilio dros 2,000 o flynyddoedd o hanes gyda llynnoedd, nentydd, henebion a ffatrioedd hanesyddol rownd pob cornel.

Ewch i’r amgueddfa ac adeiladau fferm hanesyddol gydag arddangosfeydd a rhyngweithiad lliwgar diweddaraf. Mae’r amgueddfa yn ffordd wych i ganfod mwy am bwysigrwydd Maes Glas fel canolfan ddiwydiant.

Gyda chae chwarae antur enfawr, gweithgareddau addysgol a rhaglen newidiol o ddigwyddiadau mae yna rywbeth i bob oed.

Agored yn dymhorol.

Mynediad am ddim ar gyfer yr amgueddfeydd.

Yn ogystal â’r arddangosfeydd parhaol, mae yna amrywiaeth o arddangosfeydd dros dro sy’n ymweld â’r amgueddfeydd drwy’r flwyddyn. Edrychwch allan am y rhain drwy gyfryngau cymdeithasol Aura.

Beth ydych chi â diddordeb ynddo?

Back To Top