Gwirfoddoli a Hyfforddi
Mae Chwaraeon Sir y Fflint yn cydnabod bod gwirfoddolwyr yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl Sir y Fflint. Drwy greu rhwydwaith o wirfoddolwyr lleol, ein nod yw annog rhagor o bobl i wirfoddoli ym maes chwaraeon a chynnal safon ragorol y ddarpariaeth yn y sir.
Dyma enghreifftiau o waith ein gwirfoddolwyr:
- Cynorthwyo/Hyfforddi
- Dylunio gwefannau
- Gweinyddu’n gyffredinol
- Trefnu/rhedeg gwyliau chwaraeon
Yng nghronfa ddata Hyfforddwyr/Gwirfoddolwyr Chwaraeon Sir y Fflint, ceir manylion yr holl hyfforddwyr sydd ar gael yn Sir y Fflint. Nod y gronfa ddata yw caniatáu i ni farchnata cyfleoedd i hyfforddwyr ac, weithiau, gellir cynnig gwaith ychwanegol.
Os ydych yn gweithio fel hyfforddwr ar hyn o bryd yn Sir y Fflint ac os hoffech i ni gynnwys eich manylion ar y gronfa ddata, llenwch y ffurflen Proffil Gwirfoddolwyr a Hyfforddwyr:
Ffurflen Proffil Gwirfoddolwr neu Hyfforddwr