Alert Section

Tyllau a phalmentydd a ffyrdd diffygiol


Deuir o hyd i lawer o ddiffygion ar y ffyrdd, troedffyrdd, lleiniau ymyl ffordd, llwybrau beiciau, draeniad, canol trefi, a phontydd (pa un ai dros neu o dan briffyrdd) yn ystod ein harchwilio rheolaidd.  Er hynny, os sylwch chi ar broblem gellwch roi gwybod amdani isod.

Cysylltwch â Gwasanaethau Stryd am 01352 701234.

Rhoi gwybod am broblem

Cwestiynau a ofynnir yn aml

Cyrbiau isel a lledu tramwyfeydd?
Ewch i'r Croesfan Cerbydau dudalen

Rydw i wedi syrthio neu faglu ar y palmant. Alla i hawlio iawndal? Cafodd fy nghar ei ddifrodi gan dwll yn y ffordd. Alla i hawlio iawndal?
Er mwyn hawlio, mae’n rhaid i chi roi manylion i ni o’r lleoliad penodol, dyddiad ac amser y ddamwain. Mae copiau o unrhyw ffotograff o’r nam a’r ardal o gwmpas yn ddefnyddiol er mwyn ein helpu i nodi’r lleoliad. Mae’n rhaid i’ch hawliad gael ei wneud yn ysgrifenedig a’i anfon i:

Ebost: Insurance@flintshire.gov.uk

Neu:

Rheolwr Yswiriant
Cyngor Sir y Fflint
Neuadd y Sir
Yr Wyddgrug
Sir y Flint
CH7 6NA

Ar ôl i’r nam gael ei ddynodi’n bendant, bydd eich manylion, ynghyd â’n cofnodion o’r archwiliadau, gwaith cynnal a chadw, cwynion ac unrhyw ddamwain yn y lleoliad dros y 12 mis blaenorol yn cael eu hanfon at gwmni yswiriant y Sir.