Alert Section

Goleuadau stryd a dodrefn stryd â golau


Bydd Cyngor Sir y Fflint yn dechrau ar gyfnod cyntaf rhaglen goleuadau stryd 'am ran o'r nos' ar 1 Rhagfyr 2015.  Bydd y rhaglen hon yn cael ei chyflwyno'n raddol ar draws Sir y Fflint gyda'r nod o ostwng gollyngiadau yn ystod y nos ac allbwn carbon Sir y Fflint, gan ostwng gwastraff golau tuag i fyny a golau ymwthiol.  Bydd y gwaith hwn yn arbed oddeutu £12,000 y flwyddyn am bob 1000 o unedau.  Cysylltwch â'r Gwasanaethau Stryd os oes gennych unrhyw ymholiadau.

Pa oleuadau stryd fydd y Cyngor yn eu cynnal a'u cadw?

Mae Tîm Goleuadau Stryd Cyngor Sir y Fflint yn gyfrifol am y rhan fwyaf o oleuadau stryd y Sir. Cynghorau Tref a Chymuned sy'n berchen ar rai goleuadau stryd yn Sir y Fflint. Rydym yn cynnal a chadw goleuadau ar ran nifer o Gynghorau Cymuned. Rydym hefyd yn gyfrifol am folardiau â golau a goleuadau arwyddion ffyrdd.  Nid ydym yn cynnal a chadw goleuadau ar ffyrdd nad ydynt wedi'u mabwysiadu.

Sut ydw i'n rhoi gwybod am ddiffygion?

Ni waeth pwy sy'n berchen arnynt, gallwch roi gwybod am unrhyw oleuadau stryd neu arwyddion â golau diffygiol fel a ganlyn:

Rhowch wybod am broblem ar-lein (agorir e-ffurflen)

Fel arall:

Rhowch gymaint o'r wybodaeth a ganlyn â phosibl:

  • Enw'r ffordd
  • Rhif y lamp (mae i'w weld ar y label ar y postyn)
  • Lleoliad y ffordd (e.e. enw/rhif y tŷ agosaf )
  • Natur y diffyg (e.e. y lamp wedi diffodd, yn goleuo yn ystod y dydd, difrod oherwydd traffig, coed yn cysgodi'r golau)

Beth sy’n digwydd nesaf?

Caiff eich adroddiad ei anfon at ein tîm Gwasanaethau Stryd. Os ydych wedi darparu cyfeiriad e-bost byddwch yn derbyn neges gydnabod gyda’ch cyfeirnod ac yna diweddariad o gynnydd yn nes ymlaen. Os nad ydych wedi darparu cyfeiriad e-bost gallwch gysylltu â gwasanaethaustryd@siryfflint.gov.uk am ddiweddariad.

Faint gymerith hi i drwsio unrhyw ddiffygion?

Amseroedd ymateb - Cyngor Sir y Fflint

  • *Galwadau brys - Cyrraedd y safle cyn pen 2 awr
    • difrod i gebl o dan y ddaear / uwchben (yn eiddo i Gyngor Sir y Fflint)
    • cebl / Gwaith metel sydd yn y golwg ac sydd i'w weld yn fyw
    • drws colofn ar goll
    • llusern neu fowlen yn hongian
    • colofn neu bolyn yn chwifio yn y gwynt
    • colofn neu bolyn yn anniogel
  • Diffygion brys - 1 diwrnod gwaith
    • Llusernau neu fracedi sydd wedi troi neu nad ydynt yn syth ac sy'n creu perygl i'r cyhoedd
    • Colofnau'n gwyro ond heb fod yn creu perygl amlwg
    • Pennau bolardiau wedi troi neu nad ydynt yn syth ac sy'n creu perygl i'r cyhoedd
    • Diffygion amrywiol sy'n creu perygl i'r cyhoedd
  • Diffygion yn y system gyflenwi sy'n effeithio ar gyfarpar - Rhoi gwybod i'r cwmni trydan rhanbarthol cyn pen 24 awr
  • Diffygion y rhoddwyd gwybod i'r adran Goleuadau Stryd amdanynt - 10 diwrnod gwaith
  • Diffygion a ddaeth i'r amlwg yn ystod archwiliadau nos - 7 diwrnod olynol
  • Y drefn arferol (cynnal a chadw cylchol) - 90 diwrnod

Amseroedd ymateb -diffygion o bwys (h.y. Scottish Power/Manweb)

Mae'r rhan fwyaf o oleuadau stryd yn cael trydan o'r prif gyflenwad felly byddant yn methu os nad oes pŵer neu os oes problem gyda'r cebl. Byddwn yn rhoi gwybod i'r cwmni perthnasol am unrhyw broblemau o'r fath. Dyma sut y mae OFGEM yn diffinio targedau perfformio cwmnïau trydan:

  • Ymateb i alwadau brys - Cyrraedd y safle cyn pen 2 awr
  • Trwsio diffygion sy'n cael blaenoriaeth uchel, dan reolaeth system goleuadau traffig - 2 ddiwrnod calendr
  • Trwsio diffygion sy'n cael blaenoriaeth uchel, heb fod dan reolaeth system goleuadau traffig - Cyn pen 10 diwrnod gwaith
  • Trwsio diffygion mewn mwy nag un uned - Cyn pen 20 diwrnod gwaith
  • Trwsio diffyg mewn un uned - Cyn pen 25 diwrnod gwaith

Mae diffyg sy'n cael blaenoriaeth uchel yn fater brys, e.e. ar safle lle mae damweiniau'n digwydd yn aml, cyffordd bwysig neu ardal lle mae problemau o ran y drefn gyhoeddus.