Alert Section

Awdurdodi marchnad dros dro, ffair achlysuron neu sêl cist car


Crynodeb o’r drwydded 

Er mwyn cynnal marchnad dros dro, ffair achlysuron neu sêl cist car mae’n rhaid i chi gael awdurdod ar gyfer yr ardal lle mae’r gweithgaredd gwerthu’n mynd i ddigwydd. 

Meini prawf cymhwysedd 

Mae angen i unrhyw un sy’n dymuno trefnu a chynnal sêl cist car, marchnad neu ffair achlysurol gyflwyno ffurflen gais o leiaf 28 diwrnod cyn dyddiad y digwyddiad, i'r cyngor er mwyn rhoi gwybod o'r digwyddiad a gofyn am caniatâd i wneud hynny.   

Yn ychwanegol, bydd angen i’r holl ganiatâd eraill sy’n ofynnol fod yn eu lle gan cynnwys. caniatâd gan berchennog y tir lle bwriedir cynnal y digwyddiad, caniatâd cynllunio, tystysgrifau tân cyfredol, caniatâd gan yr awdurdod priffyrdd.

Gallai methu â chael caniatâd o’r fath arwain at fethu â chyflwyno trwydded. 

Mae’n rhaid i chi dalu’r ffi berthnasol (manylion isod). 

Crynodeb o’r rheoliadau

Crynodeb o’r rheoliadau sy’n berthnasol i’r drwydded hon (ffenestr newydd)

Proses gwerthuso cais 

Rhaid i ymgeiswyr roi o leiaf 28 diwrnod o rybudd o’u bwriad i gynnal sêl cist car (neu ganiatâd i’w tir gael ei ddefnyddio ar gyfer sêl cist car) i Gyngor Sir y Fflint.

Rhaid cyflwyno ceisiadau yn ysgrifenedig (yn cynnwys defnyddio dulliau electronig) a rhaid cynnwys enw a chyfeiriad yr ymgeisydd, lle a phryd maen nhw’n dymuno masnachu ac enwa a chyfeiriad meddiannwr y safle, os yw’n wahanol i’r ymgeisydd. 

A fydd cydsyniad mud yn berthnasol? 

Bydd.  Mae hyn yn golygu y cewch chi weithredu fel petai eich cais wedi bod yn llwyddiannus os nad ydych chi wedi clywed oddi wrth yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod prosesu’r cais. 

Ffi

Y ffi sy’n daladwy ydy £87.14 ar gyfer digwyddiadau masnachol a £8.50 i fudiadau elusennol. 

Gwneud cais ar-lein

Ffurflen Gais Arwerhiant Cist Car

Ffurflen Gais Trwydded Ar Gyfer Ffair Achlysurol

Gwneud iawn am gais a fethodd

Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol fel man cychwyn.

Gwneud iawn i’r Deilydd Trwydded 

Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol fel man cychwyn.

Cwyn gan ddefnyddiwr 

Byddem bob amser yn eich cynghori, os oes gennych chi unrhyw fater rydych chi am gwyno amdano, y dylech chi gysylltu â’r masnachwr yn gyntaf – trwy lythyr (gyda phrawf cyflwyno’r llythyr) yn fwyaf dymunol.  Os nad ydy hynny wedi gweithio, ac os ydych chi yn y Deyrnas Unedig, fe gewch chi gyngor gan Cyngor ar Bopeth (ffenestr newydd). Os ydych chi y tu allan i’r Deyrnas Unedig cysylltwch â’r rhwydwaith Canolfannau Defnyddwyr Ewropeaidd - UK European Consumer Centre (ffenestr newydd).

Manylion cyswllt

Cyngor Sir y Fflint,
Adran y Marchnadoedd
Neuadd y Sir
Yr Wyddgrug
CH7 6NB

Marchnadoedd

Cymdeithasau/mudiadau’r diwydiant 

Dim

Mewn partneriaeth â EUGO