Alert Section

Safleoedd Cartrefi Symudol Preswyl


Rhaid i safleoedd cartrefi symudol preswyl, a elwir hefyd yn safleoedd cartrefi mewn parciau, gael eu trwyddedu dan Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013. Rhaid i safleoedd cymysg sydd â chartrefi preswyl a chartrefi gwyliau hefyd gael eu trwyddedu dan y Ddeddf; ar gyfer y rhan o’r safle ar gyfer carafanau teithio a charafanau gwyliau bydd y drwydded flaenorol dan Ddeddf Safleoedd Carafanau a Rheoli Datblygu 1960 yn dal i fod yn weithredol. Rhaid ichi fod wedi cael caniatâd cynllunio ar gyfer carafanau preswyl yn gyntaf cyn gellir rhoi trwydded. 

Mae canllawiau ar Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 i’w weld ar wefan Llywodraeth Cymru. Ar y wefan ceir canllawiau i berchnogion, rheolwyr a phreswylwyr ynghyd â ffurflenni ar gyfer prynu, gwerthu neu fyw mewn cartrefi symudol.
https://llyw.cymru/canllawiau-i-berchenogion-cartrefi-symudol-mewn-parciau-thirfeddianwyr-canllawiau-ffurflenni?

Un adnodd defnyddiol ar y ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â Chartrefi mewn Parciau yng Nghymru yw’r Gwasanaeth Cynghori ar Lesddaliadau (LEASE) sy’n rhoi cyngor am ddim ar y gyfraith   
https://parkhomes.lease-advice.org

Ymgeisio 
Bydd angen i reolwr neu berchennog y safle fod yn unigolyn ‘cymwys a phriodol’ i ddal trwydded. Mae hyn wedi’i gynnwys yn y ffurflen gais. Os bydd y perchennog neu’r rheolwr yn newid, rhaid diweddaru’r manylion a gwneud cais newydd fel y bo’n briodol. Rhaid talu ffi am drwydded ac mae’r polisi ffioedd ar gael ichi ei weld yma.

Amodau Trwyddedau
Rhoddir amodau ynghlwm wrth drwyddedau ac os na fyddwch yn cydymffurfio ag amodau trwydded y safle, gellir cymryd camau gorfodi.
Rhoddir yr amodau ar Drwydded Safle er mwyn gwarchod iechyd, diogelwch a lles y preswylwyr ac mae’n rhoi sylw i agweddau megis pellter rhwng cartrefi symudol, goleuadau a ffyrdd safleoedd fel esiamplau.
Mae Amodau Trwyddedau Safleoedd yn seiliedig ar Safonau Enghreifftiol 2008 ar gyfer Safleoedd Carafanau yng Nghymru ac maent yn amodau i’r Drwydded.

Rheolau Safle
Nid yw rheolau safle yn orfodol ond os oes gan safle reolau, rhaid iddynt fod yn unol â Rheoliadau Cartrefi Symudol (Rheolau Safle) (Cymru) 2014 sy’n rhoi manylion y drefn y mae’n rhaid i berchennog safle ei dilyn wrth wneud rheolau safle, eu hamrywio neu’u dileu. Y rheoliadau hyn sy’n sefydlu’r broses ar gyfer ymgynghori ar newidiadau arfaethedig, y rhain hefyd sy’n rhoi’r hawl apelio ac sy’n mynnu bod awdurdodau lleol yn cadw ac yn cyhoeddi cofrestr o reolau safle ar gyfer y safleoedd sydd yn eu hardal. Os oes gan safle reolau byddant ar gael i’w gweld ar-lein. Mae rhagor o wybodaeth am reolau safleoedd a’r broses ar gyfer eu hadolygu i’w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru
https://llyw.cymru/rheolau-safleoedd-cartrefi-symudol-canllawiau?

Safleoedd Cartrefi Symudol Preswyl yn Sir y Fflint a Rheolau Safleoedd
 
1. Hilton Park Ffordd yr Orsaf Talacre CH8 9RD
2. Millstone Caravan Park Ffordd Penarlâg Penyffordd CH4 0JF
3. Red Dragon Caravan Park Ffordd Llai Cefn-y-bedd LL12 9UE
4. Vicarage  Park Ffordd yr Arfordir Ffynnongroyw Treffynnon CH8 9HA
5. Willow Brook Park Ffordd yr Orsaf Sandycroft CH5 2PT
6. Willow Park Caravan Site Ffordd Gladstone Mancot Glannau Dyfrdwy CH5 2TX


Sut i ymgeisio ac ymholiadau
Cysylltwch â’r Isadran Gorfodi Iechyd a Diogelwch drwy e-bost ar health.safety@flintshire.gov.uk i gael ffurflen gais. 
I drafod eich cynlluniau ymlaen llaw neu os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach gallwch ein ffonio ar 01352 703381. Gallwch hefyd gysylltu â ni yn y cyfeiriad isod;

Isadran Gorfodi Iechyd a Diogelwch 
Diogelu’r Cyhoedd
Cyngor Sir y Fflint
Neuadd y Sir 
Yr Wyddgrug
Sir y Fflint
CH7 6NA