Alert Section

Trwydded eiddo – alcohol ac adloniant


Crynodeb o’r drwydded 

Mae angen trwydded gan eich awdurdod lleol arnoch chi i ddarparu bwyd yn hwyr y nos ac adloniant rheoledig a gwerthu alcohol os ydych chi’n gweithredu yng Nghymru a/neu Loegr. 

Meini prawf cymhwysedd 

Gall unrhyw un o’r isod wneud cais am drwydded eiddo: 

  • Unrhyw un sy’n cynnal busnes yn yr eiddo mae’r cais yn berthnasol iddi
  • Clwb cydnabyddedig  
  • Elusen  
  • Corff gwasanaeth iechyd  
  • Unigolyn wedi’i gofrestru dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 yng nghyswllt ysbyty annibynnol 
  • Prif swyddog heddlu Heddlu yng Nghymru a Lloegr  
  • Unrhyw un sy’n cyflawni swyddogaeth statudol dan uchelfraint Ei Mawrhydi
  • Unigolyn o sefydliad addysgol  
  • Unrhyw unigolyn arall a ganiateir  

Ni chaiff ymgeiswyr fod yn iau na 18 oed. 

Crynodeb o’r Rheoliadau 

Crynodeb o’r rheoliadau sy’n berthnasol i’r drwydded hon (ffenestr newydd) 

Proses Gwerthuso Cais 

Rhaid anfon cais i’r awdurdod trwyddedu sy’n gyfrifol am yr ardal y mae’r eiddo ynddi. 

Rhaid i’r ceisiadau fod mewn fformat penodol, ynghyd â’r ffi sy’n ofynnol.  Bydd angen amserlen gweithredu, cynllun y fangre a ffurflen ganiatâd gan oruchwyliwr y fangre hefyd (yn achos ceisiadau lle bydd gwerthu alcohol yn weithgaredd trwyddedadwy). 

Dylai’r amserlen gweithredu gynnwys manylion am:

  • Y gweithgareddau trwyddedadwy
  • Yr adegau y bydd y gweithgareddau hyn yn cael eu cynnal  
  • Unrhyw adegau eraill y bydd y fangre ar agor i’r cyhoedd  
  • Yn achos ymgeiswyr sy’n dymuno cael trwydded am gyfnod penodol, tan pryd y gofynnir am y drwydded
  • Gwybodaeth am oruchwyliwr y fangre  
  • P’un ai ydy unrhyw alcohol i’w werthu i’w yfed yn yr eiddo neu oddi allan i'r eiddo neu’r ddau
  • Y camau arfaethedig i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu
  • Unrhyw wybodaeth arall sy’n ofynnol 

Gall fod yn ofynnol i ymgeiswyr hysbysebu eu cais a rhoi hysbysiad am y cais i unrhyw unigolyn neu gorff cyfrifol arall e.e. yr awdurdod lleol, prif swyddog yr heddlu neu’r awdurdod tân ac achub. 

Awdurdodau Cyfrifol – Manylion Cysylltu (PDF 80KB ffenestr newydd)

Rhaid i’r awdurdod trwyddedu roi’r drwydded, a gellir rhoi amodau arni.  Rhaid cynnal gwrandawiad os cyflwynir unrhyw sylwadau yng nghyswllt y cais.  Os cynhelir gwrandawiad gellir rhoi’r drwydded neu ei rhoi yn amodol i amodau ychwanegol, gellir eithrio rhai o’r gweithgareddau trwyddedadwy a restrir yn y cais neu gellir gwrthod y cais. 

Bydd yr awdurdod trwyddedu yn cyflwyno hysbysiad o’i benderfyniad i’r ymgeisydd, unrhyw un sydd wedi gwneud sylwadau perthnasol (h.y. sylwadau na chawsant eu cyfri fel rhai gwamal neu flinderus) a phennaeth yr heddlu.  

Gellir cyflwyno cais i amrywio neu drosglwyddo trwydded hefyd.  Bydd rhaid cynnal gwrandawiad os cyflwynir sylwadau ynghylch hyn neu os nad yw’r amodau yn ymwneud â throsglwyddo yn cael eu bodloni. 

Ceisiadau eraill y gellir eu gwneud ydy ceisiadau am hysbysiad awdurdod dros dro yn dilyn marwolaeth, anallu neu fethdaliaeth deilydd trwydded, neu gais i adolygu trwydded. 

A fydd cydsyniad mud yn berthnasol? 

Bydd.  Mae hyn yn golygu y cewch chi weithredu fel petai eich cais wedi bod yn llwyddiannus os nad ydych chi wedi clywed oddi wrth yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod prosesu’r cais. 

Gwneud cais ar-lein

Cais am drwydded eiddo (ffenestr newydd)

Cais am ddatganiad darpariaethol (ffenestr newydd)

Cais i ddatgymhwyso’r angen am Oruchwyliwr Dynodedig yr Eiddo (ffenestr newydd)

Cais i amrywio trwydded eiddo (ffenestr newydd)

Cais i amrywio trwydded mangre i nodi unigolyn fel goruchwyliwr dynodedig yr eiddo (ffenestr newydd)

Cais i drosglwyddo trwydded eiddo (ffenestr newydd)

Hysbysiad o fudd mewn mangre dan Adran 178 (ffenestr newydd)

Hysbysiad awdurdod dros dro (ffenestr newydd)

Caniatâd i drosglwyddo (ffenestr newydd)

Caniatâd i fod yn ddynodedig (ffenestr newydd)

Cais am fân newidiad i drwydded eiddo neu drwydded clwb (ffenestr newydd)

Hysbysiad newid enw neu gyfeiriad (ffenestr newydd)

Cais i ddileu enw fel goruchwyliwr dynodedig yr eiddo (ffenestr newydd)

Gwneud taliad blynyddol am drwydded mangre (ffenestr newydd)

Gwneud iawn am gais a fethodd 

Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol fel man cychwyn.

Os ydy cais am drwydded yn cael ei wrthod gall yr ymgeisydd gyflwyno apêl.   

Rhaid cyflwyno apêl i’r llys ynadon cyn pen 21 diwrnod o dderbyn yr hysbysiad am y penderfyniad. 

Gwneud iawn i’r Deilydd Trwydded

Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol fel man cychwyn.

Os gwneir cais gan brif swyddog yr heddlu, fel a nodir isod, a bod yr awdurdod trwyddedu yn cyflwyno camau interim, cewch wneud sylwadau.  Rhaid cynnal gwrandawiad cyn pen 48 awr o dderbyn eich sylwadau. 

Gall deilydd trwydded gyflwyno apêl yn erbyn unrhyw amodau ynghlwm â thrwydded, penderfyniad i wrthod cais i amrywio trwydded, penderfyniad i wrthod cais i drosglwyddo neu benderfyniad i eithrio unrhyw weithgaredd neu unrhyw unigolyn fel goruchwyliwr mangre. 

Rhaid cyflwyno apêl i’r llys ynadon cyn pen 21 diwrnod o gael yr hysbysiad o benderfyniad. 

Cwyn gan ddefnyddiwr 

Gall parti â diddordeb neu awdurdod cyfrifol gyflwyno cais i’r awdurdod trwyddedu adolygu’r drwydded mangre.  Bydd yr awdurdod trwyddedu yn trefnu gwrandawiad. 

Rhaid cyflwyno apêl i’r llys ynadon cyn pen 21 diwrnod o gael yr hysbysiad o benderfyniad. 

Gwneud iawn mewn achosion eraill 

Gall y prif swyddog heddlu yn yr ardal y lleolir y fangre wneud cais i’r awdurdod trwyddedu adolygu’r drwydded os ydy’r fangre wedi’i thrwyddedu i werthu alcohol a bod uwch swyddog wedi rhoi tystysgrif ei fod o’r farn bod y fangre yn gysylltiedig ag un ai trosedd difrifol neu anhrefn difrifol neu’r ddau.  Cynhelir gwrandawiad, a chaiff deilydd y drwydded a phartïon eraill â diddordeb gyflwyno sylwadau. 

Gall prif swyddog heddlu hysbysu awdurdod trwyddedu os yw’n credu y gallai trosglwyddo trwydded i rywun arall, gan y broses cais i amrywio, danseilio’r amcanion atal troseddau.  Rhaid cyflwyno hysbysiad o’r fath o fewn 14 diwrnod o dderbyn hysbysiad am y cais.  

Gall parti â diddordeb neu gorff cyfrifol gyflwyno sylwadau yng nghyswllt cais am drwydded neu ofyn i’r corff trwyddedu adolygu trwydded. 

Gall parti â diddordeb neu gorff cyfrifol wneud cais i’r awdurdod trwyddedu adolygu trwydded y fangre.  Bydd yr awdurdod trwyddedu yn cynnal gwrandawiad. 

Gall prif swyddog heddlu gyflwyno sylwadau i’r awdurdod trwyddedu yn gofyn am adolygu’r drwydded os ydy’r fangre wedi’i thrwyddedu i werthu alcohol a bod uwch swyddog wedi rhoi tystysgrif ei fod o’r farn bod y fangre yn gysylltiedig ag un ai trosedd difrifol neu anhrefn difrifol neu’r ddau. 

Gall parti â diddordeb neu awdurdod perthnasol a gyflwynodd sylwadau perthnasol apelio yn erbyn rhoi trwydded neu yn erbyn unrhyw benderfyniadau ynghylch amodau, amrywio’r drwydded, gweithgaredd trwyddedadwy neu oruchwyliwr y fangre.  

Rhaid cyflwyno apêl i’r llys ynadon cyn pen 21 diwrnod o gael yr hysbysiad o benderfyniad. 

Manylion cyswllt

Adran Trwyddedu, Diogelu’r Cyhoedd, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, CH7 6NF

Rhif ffôn: 01352 703030

E-bost: trwyddedu@siryfflint.gov.uk

Cymdeithasau/Mudiadau’r Diwydiant 

Broadcasting, Entertainment, Cinematograph and Theatre Union (BECTU) (ffenestr newydd)

Federation of Licensed Victuallers Associations (FLVA) (ffenestr newydd)

Mewn partneriaeth â EUGO