Alert Section

Cofrestru anifeiliaid sy'n perfformio


Crynodeb o’r drwydded 

Os ydych chi’n arddangos, defnyddio neu’n hyfforddi anifeiliaid sy’n perfformio yng Nghymru, mae’n rhaid i chi fod wedi cofrestru â’ch awdurdod lleol. 

Rhaid i’r cais gynnwys manylion am yr anifeiliaid a’r perfformiadau y byddant yn cymryd rhan ynddyn nhw.  Gellir codi ffi am wneud cais i gofrestru. 

Crynodeb o’r Rheoliadau

Crynodeb o’r rheoliadau sy’n berthnasol i’r drwydded hon (ffenestr newydd) (Deddf Anifeiliaid Perfformio (Rheoleiddio) 1925) 

Proses Gwerthuso Cais 

Dim darpariaeth yn y ddeddfwriaeth.

A fydd cydsyniad mud yn berthnasol? 

Bydd.  Mae hyn yn golygu y cewch chi weithredu fel petai eich cais wedi bod yn llwyddiannus os nad ydych chi wedi clywed oddi wrth yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod prosesu’r cais. 

Ffioedd a thalu

Mae’r ffi (oedd) ar gyfer y cais hwn fel a ganlyn: £21

Gwneud cais ar-lein 

Cais i gofrestru ar gyfer arddangos neu hyfforddi anifail sy’n perfformio (ffenestr newydd)

Cais i newid cofrestriad anifail sy’n perfformio (ffenestr newydd)

Gwneud iawn am gais a fethodd 

Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol fel man cychwyn.

Gwneud iawn i’r Deilydd Trwydded 

Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol fel man cychwyn.

Cwyn gan ddefnyddiwr 

Byddem bob amser yn eich cynghori, os oes gennych chi unrhyw fater rydych chi am gwyno amdano, y dylech chi gysylltu â’r masnachwr yn gyntaf – trwy lythyr (gyda phrawf cyflwyno’r llythyr) yn fwyaf dymunol.  Os nad ydy hynny wedi gweithio, ac os ydych chi yn y Deyrnas Unedig, fe gewch chi gyngor gan Cyngor ar Bopeth (ffenestr newydd). Os ydych chi y tu allan i’r Deyrnas Unedig cysylltwch â’r rhwydwaith Canolfannau Defnyddwyr Ewropeaidd - UK European Consumer Centre (ffenestr newydd).

Gwneud iawn mewn achosion eraill

Gall swyddog heddlu neu swyddog awdurdod lleol gwyno wrth y llys ynadon lleol os ydynt o’r farn bod anifeiliaid wedi dioddef creulondeb. 

Manylion cyswllt

Adran Trwyddedu, Diogelu’r Cyhoedd, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, CH7 6NF

Rhif ffôn: 01352 703030

E-bost: trwyddedu@siryfflint.gov.uk

Cymdeithasau/Mudiadau’r Diwydiant

Society for All Artists (SAA) (ffenestr newydd)

Mewn partneriaeth â EUGO